Dan a Claire o Gymdeithas Eryri yn gwarchod Eryri drwy roi cynnig ar ras fynydd anodd

Ar 31 Awst bydd Claire a Dan, dau aelod dewr o staff Cymdeithas Eryri, yn cymryd rhan yn Ras Fynydd Gladstone 9 ym mynyddoedd y Carneddau. Mae llwybr y ras yn mynd dros Tal y Fan a Foel Lus a bydd sawl esgyniad a chwymp technegol anodd drwy gydol y ras.

Yn enwog am eu ehangder agored o ucheldir, does dim cymaint o bobl yn gwybod am dirluniau cynhanesyddol y Carneddau, sawl heneb hynafol, eu planhigion ac anifeiliaid prin a’u brîd lled-wyllt eu hunain o ferlod mynydd. Mae Cymdeithas Eryri yn cymryd rhan mewn project ar raddfa eang, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Cenedlaethol ac sydd i’w roi ar waith yn ddiweddarach eleni, i warchod, rhannu a dathlu’r dreftadaeth gyfoethog hon nad yw’n cael ei gwerthfawrogi’n llawn. Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.

Wedi ei sefydlu yn 1967, Cymdeithas Eryri yw’r elusen gadwraeth sy’n gweithio’n ddygn i warchod a gwella harddwch y Parc Cenedlaethol. Mae ein gwirfoddolwyr yn clirio sbwriel, trwsio llwybrau, rheoli rhywogaethau ymledol a rheoli cynefinoedd bywyd gwyllt. Pob blwyddyn mae angen mwy o bobl arnom i fwynhau a gwarchod Eryri.

Cofiwch ddangos eich cefnogaeth i Dan a Claire drwy noddi eu hymdrechion glew a helpu i warchod Eryri!

Cliciwch yma i roi drwy LocalGiving

Comments are closed.