Gwobrau am ‘Chwip o Chwedl’

Gwobrau am ‘Chwip o Chwedl’

Mae gwobrau wedi cael eu cyflwyno i ddisgyblion o dair ysgol gynradd leol am ysgrifennu eu ‘Chwip o Chwedl’ ar gyfer cystadleuaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, a gefnogir gan Gymdeithas Eryri yn ystod blwyddyn ei hanner canmlwyddiant.

Fe wnaeth yr awdures o fri Bethan Gwanas a’r naturiaethwr Twm Elias ddyfarnu’r gwobrau i ddisgyblion o Ysgol Gwaun Gynfi, Deiniolen; Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog; ac Ysgol Penybryn, Bethesda, yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae disgyblion ysgolion ledled Cymru wedi cyfranogi mewn sesiynau creadigol fel rhan o’r gystadleuaeth: gwneud collages naturiol, cyfansoddi caneuon yn y coed a dychmygu bwystfilod chwedlonol i gynorthwyo i’w hysbrydoli i ysgrifennu eu chwedlau modern eu hunain.

O blith yr ysgolion a gyfranogodd yn y gystadleuaeth, dewiswyd y dair ysgol ddilynol i fynd ymlaen i ar
Eisteddfod Genedlaethol 2017:

· Ysgol Gwaun Gynfi a’u chwedl Afon Rhythallt
· Ysgol Maenofferen a’u chwedl Foddi Babanod yn y Bala
· Ysgol Penybryn a’u chwedl Yr Wrach Penllithrig

Cafodd pob ysgol gasgliad o lyfrau yn adrodd chwedlau a mythau Cymru, a bydd eu straeon ar gael i’w darllen ar lein yn fuan.

 

Comments are closed.