Ffordd ymlaen i Lanbedr?

Cais cynllunio ar gyfer ffordd newydd yn Llanbedr i gael ei gyflwyno’n ôl i’r Pwyllgor Cynllunio.

Bydd cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu ffordd newydd yn Llanbedr ger Harlech yn cael ei gyflwyno’n ôl i Bwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dilyn cais am Adolygiad Barnwrol.

Cyflwynwyd y cais am Adolygiad Barnwrol gan berchennog tir a effeithiwyd gan benderfyniad Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ôl ym mis Medi i ganiatáu ffordd newydd 1.5km yn Llanbedr. Gwneir y cais am Adolygiad Barnwrol ar y sail na chydymffurfiwyd ȃ’r broses briodol mewn perthynas ȃ’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, yn benodol mewn perthynas ag asesu’r effaith ar Ardal o Gadwraeth Arbennig, sy’n ddynodiad statudol.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu peidio ȃ herio’r achos, ac wedi cytuno i’r Llys ddiddymu’r caniatâd cynllunio. Unwaith bydd y Llys wedi penderfynu ar yr achos, bydd y cais yn cael ei ailbenderfynu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Rhoddwyd cais cynllunio gwreiddiol Cyngor Gwynedd gerbron ar frys heb gynnwys rhai dogfennau hanfodol. Roedd y cais hwnnw a roddwyd gerbron yn adlewyrchu brys Llywodraeth Cymru i ddangos ‘cynnydd’ tuag at welliannau’r isadeiledd er mwyn cefnogi ei ymdrechion i ddenu’r ‘Porth Ofod’ i faes awyr Llanbedr. Ers hynny, mae datblygiad y porth ofod yma wedi ei ddyfarnu i benrhyn A’Mhoine yn Sutherland. Gyda’r newid hwn yn yr amgylchiadau, byddwn yn archwilio’r cais wedi iddo gael ei ddychwelyd. Byddwn yn gofyn a yw’n gwneud synnwyr yn nhermau anghenion y bobl leol, yr amgylchedd naturiol a thirlun y Parc Cenedlaethol. Nodwn, er enghraifft, bod Llywodraeth Cymru wedi dosrannu ariannu ‘Teithio Llesol’ ar gyfer datblygiad ffordd osgoi Llanbedr heb ddarpariaeth ar gyfer beicwyr na cherddwyr.

 

Comments are closed.