Cynulliad o eryrod

 

Mae ailgyflwyno eryrod i Eryri wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar. Yma mae ein Cyfarwyddwr, John Harold, yn rhoi golwg bersonol ar ychydig o’r cwestiynau ynglŷn â’r mater hwn.

Dod adref i Eryri.

Eryri, lle arferai eryrod aur gylchu uwchben y mynyddoedd. Ym mhle yn Eryri y clywyd cri’r eryr am y tro olaf? Pwy ar y ddaear na fyddai yn dymuno clywed yr alwad honno? Pwy na fyddai’n cynhyrfu o glywed y gri honno eto, ei chlywed am y tro cyntaf, ei chlywed dro ar ôl tro?

Dychmygwch eich hun yng Nghwm Llafar, Nant Peris, Nant Gwynant – does dim wir ots ym mhle. Dychmygwch yr eryr yn craffu arnoch. Dychmygwch yr eryr yn eich tynnu i mewn, yn eich rhoi yn eich lle. Ymysg y creigiau a’r grug dydych chi’n ddim ond darn bychan o’i ymerodraeth. Mae’r eryr yn saethu heibio ac yn diflannu. Pan rydych chi o’r diwedd yn cerdded ymlaen mae eich cam yn ysgafn, fel pe bai’r eryr wedi cludo rhywbeth efo fo.

Yn ôl i realiti.

Fel breuddwydion, fe all gweledigaethau fod yn rymus. Ond mae’n bosibl hefyd eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Mewn fersiwn arall, gwelir yr eryr – neu mae rhywun yn meddwl eu bod yn ei weld – yn cipio oen, neu ffesant neu rugiar. Pob tro mae hynny’n digwydd mae gafael yr eryr ar Eryri yn gwanhau. Yn union fel y digwyddodd pethau i beri iddyn nhw ddiflannu o’r tir ddwy ganrif yn ôl. Mae angen i unrhyw un sy’n ystyried dilyn y ffordd anodd tuag at ailgyflwyno ddeall hyn a pharchu’r pryderon sydd y tu ôl i’r syniad o’u hailgyflwyno.

Mae pwysau pobl ac argaeledd ysglyfaeth yn ffactorau allweddol, mannau i gychwyn deall beth sydd ei angen ar eryrod; cynefin, lleoliadau nythu, rhywogaethau ysglyfaeth a’r nifer o ysglyfaeth. Faint o ysglyfaeth gwyllt fydd ei angen i gadw colledion da byw ar lefel y gall ffermwyr ei ddioddef, a beth sydd angen ei sefydlu os yw am weithio i bobl sy’n gwneud eu bywoliaeth o’r tir?

“Gadewch iddyn nhw fwyta teisen …“

Pe bai ein gweledigaeth am deisen flasus yn hytrach nag eryrod, byddai angen i ni’n gyntaf sicrhau bod y cynhwysion sylfaenol gennym – blawd, wyau, ymenyn, siwgr a phopty sy’n gweithio. Dim ond wedi gwneud hyn y byddem yn gallu dechrau glafoerio a dychmygu a fyddem ni’n bwyta cacen lemwn neu ellyg a siocled.

Fe all y weledigaeth o eryrod yn dychwelyd i Eryri fod yn rhyfeddol. Fodd bynnag, mae gweledigaeth o’r fath yn gofyn am beth wmbredd o waith sylfaenol i gyrraedd fersiwn o Eryri lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, a lle mae croeso i’r eryrod wrth iddyn nhw ddod adref. I gyrraedd y man hwnnw mae’n rhaid i ni gychwyn o Eryri fel y mae heddiw. Mae dechrau efo’r eryrod yn golygu dechrau yn y lle anghywir. Mae’n rhaid i ni ddechrau gyda’r cynhwysion sylfaenol – y tir, ei gynefinoedd presennol a bywyd gwyllt a’i bobl.

Ôl-nodyn

Pan dorrodd y stori hon am ailgyflwyno yn y cyfryngau roedd llawer o bobl, yn fy nghynnwys i, yn pendroni pam ei bod wedi dod i’r golwg rŵan. Mae’n ymddangos bod dwy fenter wahanol sy’n berthnasol i eryrod yng Nghymru, fel yr eglurir yn yr erthygl hon.

 

Comments are closed.