Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Ymgysylltu

Lleoliad Newydd i Natur: Cynorthwyydd Ymgysylltu

 

Oriau: 35 awr yr wythnos, 12 Mis, Cyfnod penodol.  Bydd rôl ran-amser yn cael ei hystyried fel addasiad rhesymol

Graddfa tâl: £10.90 yr awr (Cyflog byw gwirioneddol)

Lleoliad: Swyddfa: Caban, Brynrefail. Mae opsiynau gweithio gartref ar gael. Mae’n bosib y bydd gwaith wyneb yn wyneb yn digwydd ar hyd a lled Gogledd Eryri.

DYDDIAD CAU: 12.00pm, dydd Gwener 17eg Chwefror 2023

DYDDIAD CYFWELIAD: dydd Mercher 1af Mawrth 2023

DYDDIAD CYCHWYN DISGWYLIEDIG: dydd Llun 17eg Ebrill, 2023

Mae Newydd i Natur yn rhaglen gyffrous o leoliadau gwaith cyflogedig mewn rolau sy’n canolbwyntio ar natur. Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl ifanc (18-25 oed) sy’n dod o gefndiroedd ethnig amrywiol, sy’n byw ag anabledd neu sy’n dod o aelwydydd incwm isel. 

Cliciwch yma am wybodaeth lawn am y cyfle hwn.

DISGRIFIAD O’R RÔL

Bydd y rôl amrywiol hon yn eich galluogi i ennill ystod eang o sgiliau a phrofiad i’ch helpu i ymgysylltu â’r cyhoedd am amrywiaeth o faterion amgylcheddol a chadwraeth – a fydd yn eich helpu i symud ymlaen yn y sector amgylcheddol. Mae’r trydydd sector yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o warchod ein tirweddau arbennig ac mae hwn yn gyfle delfrydol i ddysgu mwy am sut mae elusennau a sefydliadau di-elw yn gweithio gyda’r cyhoedd a chyda sefydliadau partner.

Fel Cynorthwyydd Ymgysylltu, byddwch yn cael eich hyfforddi a’ch cefnogi i wneud y canlynol:
• Recriwtio aelodau, aelodau busnes, cefnogwyr a gwirfoddolwyr newydd amrywiol ar gyfer Cymdeithas Eryri ar-lein ac wyneb yn wyneb.
• Cefnogi staff i ddatblygu a chyflwyno rhaglen eithriadol o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyhoeddus sy’n codi proffil y Gymdeithas ac yn gwella enw da’r Gymdeithas.
• Cefnogi ymgysylltiad y Gymdeithas â grwpiau cymunedol ac aelodau’r cyhoedd i’w helpu i reoli safleoedd ar gyfer cadwraeth.
• Gweithio gyda staff eraill i ddatblygu ein gwaith mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
• Mynychu digwyddiadau a gweithgareddau sefydliadau eraill fel platfform recriwtio a rhwydweithio
• Cyfrannu at fonitro a gwerthuso gwaith y Gymdeithas, a, gyda staff eraill, datblygu adroddiadau effaith effeithiol.
• Helpu gydag agweddau eraill ar waith y Gymdeithas yn ôl yr angen
• Bydd cyfleoedd i ennill profiad a sgiliau mewn gwaith cadwraeth ymarferol a chwblhau hyfforddiant achrededig perthnasol

MANYLEB Y PERSON

  • Rydyn ni’n chwilio am siaradwr Cymraeg ar gyfer y swydd hon a fydd yn golygu gweithio gyda’r cyhoedd. Rydyn ni’n annog dysgwyr Cymraeg brwdfrydig i wneud cais
  • Diddordeb brwd mewn cadwraeth/amgylchedd/Eryri
  • Gallu cymell eich hun, yn ymroddedig, yn drefnus ac yn ddibynadwy
  • Cyfathrebu’n dda
  • Mae angen hyblygrwydd oherwydd bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal ar benwythnosau yn ogystal ag yn ystod yr wythnos, ac efallai bydd angen gweithio gyda’r nos.  Fodd bynnag, mae’r hyblygrwydd hwn yn gweithio’r ddwy ffordd ac, ar yr amod bod anghenion y Gymdeithas yn cael eu diwallu, byddwn yn eich cefnogi i gynllunio eich gwaith o gwmpas ymrwymiadau eraill

CAIS

Gallwch chi wneud cais am y lleoliad hwn drwy ddilyn y ddolen ganlynol: www.surveymonkey.co.uk/r/NTNPlacementApplication22

Groundwork UK sy’n gyfrifol am y cam hwn a bydd yn gwirio pa mor addas yw’r ymgeiswyr, cyn trosglwyddo’r cais i’r sefydliad sy’n cynnal y lleoliad, a fydd yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer proses gyfweld anffurfiol.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y rôl gywir o’r gwymprestr yn ofalus, er mwyn sicrhau bod eich manylion yn cael eu trosglwyddo i’r sefydliad cywir sy’n cynnig y lleoliad. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y ffurflen gais, cysylltwch â Groundwork UK yn: newtonature@groundwork.org.uk

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses gyfweld, mae croeso i chi gysylltu â ni yn: mary-kate@snowdonia-society.org.uk

 

Comments are closed.