Gweithio gyda phroject Curlew LIFE yr RSPB

Wrth gerdded ar lan y Fenai yn y gaeaf ac edrych ar draws y traethellau lleidiog eang, efallai y cewch gipolwg ar ffurf nodweddiadol y gylfinir. Y coesau hir, corff crwn a phig hir, gosgeiddig ar dro, yn wahanol i’r llu o adar rhydiol. Mae eu cymeriad a’u presenoldeb ledled misoedd hir y gaeaf yn bleser.

Fodd bynnag, yn drist iawn, mae bygythiad i’w presenoldeb. Mae’r gylfinir, a oedd unwaith yn olygfa gyfarwydd ledled ein gwlyptir a’n tir fferm, wedi bod yn prinhau ers degawdau ac mae’n un o rywogaethau rhestr goch gynyddol y DU. Gyda dim ond hanner y nifer o barau oedd yn magu yma 25 mlynedd yn ôl a gyda’u nifer yn gostwng, mae dyfodol y rhywogaeth hon yn ansicr. Gyda’r DU yn cynnal oddeutu chwarter y boblogaeth sy’n magu ledled y byd, bydd yr hyn sy’n digwydd yma yn llunio dyfodol y rhywogaeth hon.

Llun / image: Jake Stephens

Fodd bynnag, mae gobaith. Mae gan yr RSPB brofiad o gynorthwyo gyda chynyddu poblogaeth rhywogaethau sydd wrth ymyl y dibyn. Mae’r barcud, sy’n cylchu uwchben Eryri unwaith eto, yn enghraifft o waith yr RPSB a’i phartneriaid dros flynyddoedd o gadwraeth wedi ei ganolbwyntio’n briodol. Gyda’i gynffon fforchiog bron â diflannu o’r tir, roedd y barcud wedi diflannu o bron y cwbl o’r DU heblaw am ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru, lle roedd un neu ddau o barau’n dal i fyw. Drwy drugaredd, nid dyma ddiwedd y stori a does dim rhaid iddo fod yn stori’r gylfinir chwaith. Dyma pam yr ydym wedi gwirioni ein bod yn rhan o broject LIFE Gylfynir yr RSPB.

Hyd yma mae ein gwirfoddolwyr wedi helpu i warchod un o’u safleoedd nythu olaf yng ngogledd Cymru drwy glirio conifferau ymledol. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol gan mai wrth fagu mae’r gylfinir yn wynebu’r broblem fwyaf i’w hadferiad, gan fod colli cynefin nythu priodol ac ysglyfaethu eu nythod yn rhwystro niferoedd y gylfinir rhag adfer. Felly, mae cynnal y safleoedd nythu yma’n hanfodol bwysig os yw’r gylfinir yn mynd i oroesi.

Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi project LIFE y Gylfinir ym mhob ffordd posibl. Y gwanwyn hwn bydd tîm cadwraeth Cymdeithas Eryri yn helpu i fonitro eu safleoedd nythu, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a staff yr RPSB. Bydd arolygon wythnosol yn ein galluogi i gasglu data manwl gywir ar nifer a lleoliadau nythod y gylfinir. Defnyddir y data hwn i gynorthwyo gyda gwarchod y gylfinir, o gynlluniau cynefin a gwarchod nythod i ddylanwadu ar benderfyniadau polisi. I ddysgu mwy, neu i gynorthwyo, cliciwch ar y cyswllt. Gobeithio, flynyddoedd yn y dyfodol, y byddwn yn dal yn gallu edrych ar draws y traethellau lleidiog yma a gweld ffurf cyfarwydd y gylfinir.

 

Comments are closed.