Judith: hwyl fawr, a diolch am yr holl gacennau!

Y mis hwn, wedi mwy na deng mlynedd fel Swyddog Ariannol y Gymdeithas, rydym yn diolch o waelod calon i Judith Bellis ar ei hymddeoliad haeddiannol ac yn dymuno’r gorau iddi. Mae Judith wedi cynnal cofnodion ariannol y Gymdeithas ar lwybr priodol, ac mae ei gwaith wedi llywio datblygiad y Gymdeithas dros ddegawd cynhyrchiol yn ei hanes hir. 

Rydym yn ddiolchgar i Judith am ei chyfraniad enfawr. Roeddem yn gallu dibynnu arni â’i dull broffesiynol, tawel a meddylgar o gydweithio gyda staff, ymddiriedolwyr neu gyrff a rheolwyr allanol. Yn rhywun cyfarwydd yng Nghyfarfodydd Blynyddol y Gymdeithas, mae sawl aelod wedi nodi cymaint yr oedden nhw’n mwynhau adroddiadau blynyddol Judith. Yn glir ac yn aml yn ysbrydoledig, roedden nhw’n bwrw golwg ddifyr ar yr hyn a alla’i fod gan rai yn gyflwyniad ariannol eithaf sych.

A dyna’r allwedd. Mae Judith wedi bod yn glir bob amser bod y gwaith yn fwy na swydd yn unig iddi. Mae pawb yn yr ardal hon yn gwybod cymaint yw ei gofal am bobl a byd natur. Mae wedi cyfrannu cymaint i’r Gymdeithas a’i phobl ac, fel un sy’n hoff o grwydro Eryri ei hun, wedi cefnogi ein gwaith dros yr ardal hon wrth warchod a meithrin.

Mae Judith wedi bod yn rhan hanfodol o’r tîm. Yn adnabyddus hefyd fel un sy’n gallu pobi teisennau rhyfeddol ar gyfer pob achlysur, byddwn yn ei cholli, er y bydd, mae’n debyg, yn dal yn gefnogol i weithgareddau’r Gymdeithas, unwaith y bydd wedi cael rheolaeth ar brojectau yn ei gardd! Felly, Judith – byddwn yn colli eich gwybodaeth a’ch cynhesrwydd, ond gobeithiwn eich gweld – a’ch teisennau – mewn digwyddiad gan y Gymdeithas yn fuan.

Comments are closed.