Gardd wedi ei hysbrydoli gan Eryri yn ennill mewn cystadleuaeth garddio genedlaethol

Mae gardd a grëwyd gan gynllunydd tirlun o ogledd Cymru wedi ennill y Gorau yn y Sioe yn Ffair Wanwyn BBC Gardeners’ World eleni.

Wedi ei hysbrydoli gan Ddyffryn Ogwen, Eryri, mae’r cynllun buddugol yn seiliedig ar grawiau, sef ffens lechi, sy’n gwau drwy gyfoeth o blannu gwyllt ac sy’n cynnwys afon gweadog o lechi i gynrychioli’r afon Ogwen.

Cyflwynwyd y wobr blatinwm uchaf – a wobrwywyd yn ôl dewis y beirniaid ac a ddyfarnwyd y tro diwethaf yn 2012 – i Aaron Marubbi gan Adam Frost o BBC Gardeners’ World yn ystod y digwyddiad ar ddydd Gwener 29 Ebrill.

Dychwelodd y cynllunydd Aaron Marubbi, sy’n dod o Wrecsam ac sy’n gweithio ym Methedsa, i’w ogledd Cymru brodorol ychydig cyn y cyfnod clo cyntaf ym Mawrth 2020 i sefydlu ei stiwdio cynllunio tirlun ei hun, Marubbi Landscape.

Meddai Aaron:

“Fel cynllunydd tirlun ac fel rhywun sy’n hynod falch o ogledd Cymru, rydw i mor falch fy mod wedi gallu arddangos harddwch ein tirlun i gynulleidfa ehangach.”

Fydden ni ddim yn gallu cytuno mwy, Aaron!

Comments are closed.