Eryri: rhwng awyr a môr

Eryri: rhwng awyr a môr

Aeth grŵp dewr o aelodau Cymdeithas Eryri ac eraill ar y cwch i Enlli ddydd Sul diwethaf, 2 Gorffennaf, am ddiwrnod arbennig ar yr ynys eiconig.

Wrth i’r môr daflu ei ewyn gwyn dros gwch melyn Colin, gwelwyd palod, llursod a gwylogod yn eu cannoedd yn hedfan a siglo ar y tonnau. Ar ôl 20 munud o groesi’r swnt cafodd y grŵp groeso gan haid o forloi llwyd yn udo fel bleiddiaid ar greigiau ger yr harbwr.

Unwaith ar dir, arhosodd y grŵp am banad angenrheidiol yn y ‘stafell de’ cyn cychwyn efo’r naturiaethwr lleol Haf Meredydd am daith tywys o hanes, adeiladau ac ecoleg yr ynys. Cafwyd cinio’n eistedd yn y grug porffor ar ben clogwyn yn edrych yn ôl tuag at Ben Llŷn, lle adroddodd Haf straeon am fynachod yn hwylio ar draws y swnt mewn cwryglau bychan.

Cafwyd gwedd wahanol ar fynyddoedd godidog Cymru wrth edrych tuag at y tir mawr: Eryri wedi ei fframio rhwng yr awyr a’r môr, yn ein hatgoffa o bwysigrwydd gwarchod a dathlu treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ein parc cenedlaethol.

Mae Cymdeithas Eryri yn ddiolchgar iawn i Haf a Colin am wneud y diwrnod yma’n un arbennig iawn, ac i’r rhai a ymunodd â’r daith.

Lluniau, clocwedd o’r chwith uchaf: Gwylio’r adar môr o’r cwch; morloi llwyd yn torheulo; ‘ystafell de’ Enlli; grŵp o wylogod; bwthyn pysgotwr Cymreig traddodiadol; man annhebygol o gysgod i’r ddafad!

Cydnabyddiaeth lluniau: Peter Smith 2017, Owain Thomas 2017

bardsey collage - boat bardsey collage - seals

bardsey collage - sheep bardsey collage - picnic

bardsey collage - cottage bardsey collage - guillemots

Oeddech chi’n gwybod bod 2017 yn nodi pen-blwydd Cymdeithas Eryri yn 50?
Fel rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn 50, mae gennym ni lwyth o ddigwyddiadau’r flwyddyn yma – Ewch i’n calendr o ddigwyddiadau ar lein YMA a sicrhewch eich bod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau eraill am 2017. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan.

Ddim yn aelod? Cliciwch YMA i ymuno â Chymdeithas Eyri ac i’n helpu ni i warchod y parc cenedlaethol ar gyfer y dyfodol.

 

 

Comments are closed.