Shaping the Wild: Wisdom from a Welsh Hill Farm gan David Elias

Shaping the Wild: Wisdom from a Welsh Hill Farm gan David Elias, gyda rhagair gan Iolo Williams

Adolygwyd gan John Harold

Mae Shaping the Wild yn llyfr pwysig. I’r sawl sy’n gofalu a phryderu am fyd natur Eryri – o le mae o’n dod ac i le mae o’n mynd – efallai mai dyma’r gwaith pwysicaf yn Saesneg hyd yma.

Mae Shaping the Wild yn creu pont rhwng y ddau fyd, ffermio a chadwraeth. O flaen ein llygaid, mae David Elias yn creu cyfres o risiau o bob ochr i’r rhaniad hwn sydd wedi hen ymwreiddio. Mae dwy farn fyd-eang yn raddol agor tuag at ei gilydd, yn fwyfwy agored wrth iddyn nhw agosáu uwchben y gagendor. Mae Shaping the Wild yn datblygu ein dealltwriaeth o sawl persbectif allweddol ar reolaeth tir, byd natur a’n lle ni o fewn y tirlun.

Mae disgyblaethau ffurfiol – a’r disgyblion – amaethyddiaeth a chadwraeth natur wedi eu cloi mewn brwydr esblygiadol ers o leiaf canrif erbyn hyn. Mae’r llyfr hwn yn amlinellu’n eglur a gydag empathi ym mhle maen nhw’n gorgyffwrdd a lle maen nhw’n sylfaenol wahanol. Mae’n allwedd i fap cymhleth o gystadleuaeth am diriogaethau – gwaith y byddai ychydig yn gallu ei gyflawni ac y mae llai fyth wedi rhoi cynnig arno. Mae’n cydorwedd â chwmni aruchel, yn debyg mewn mannau i ymdrechu Aldo Leopold am ddealltwriaeth holistaidd – dim byd llai nag ethig tir.

Mae David Elias yn adnabod byd natur fel cefn ei law ac mae’n ysgrifennu gyda manylder a theimlad gwir naturiaethwr. Mae yma ddeunydd llawn gwybodaeth ar ystod eang o rywogaethau, o amrywiaeth ryfeddol y bryoffytau sy’n aml yn anweledig i straeon mawr y dydd megis ffawd y gylfinir – aderyn sy’n nodweddiadol o dir gwir wyllt ac eto yn hollol ddibynnol ar ffermio.

Mae’n rhannu gyda ni’r profiad o fyd natur ar fferm sy’n dod yn filltir sgwâr iddo, tir cyfarwydd sy’n estyniad ohonom ein hunain, lle mae gwylio’n fanwl yn ail natur. Yn haen arall ar y sylfaen gyfoethog yma, mae Shaping the Wild yn amlygu byd natur drwy ddau begwn dealltwriaeth, sef ffermwyr mynydd traddodiadol Cymraeg eu hiaith, a’r cadwraethwr proffesiynol. Dim ond yn ddiweddar yr ydym wedi dechrau gweld unigolion yn sefydlu eu hunain yn gadarn yn y ddau fyd yma, arloeswyr a fydd yn sicrhau newid o ganlyniad. Mae’r llyfr hwn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer y bobl hynny a’r gwaith hwnnw. Mae’r ddau ddehongliad yn gyfoethog ac yn llawn ystyr, yn cysylltu’n gyson yn ôl ac ymlaen rhwng pobl, lleoliadau ac amseroedd.

Wrth ystyried hyn, mae’r ffasiwn am labelu pob project fel un ar gyfer dad-ddofi yn ymddangos yn arwynebol, nad yw’n cymryd lle’r penderfyniadau anodd a’r gwaith dygn sy’n angenrheidiol ar gyfer gwir gadwraeth a gwir amaethu. Mae cychwyn o safbwynt ‘dim canlyniad wedi ei benodi dros fyd natur’ yn edrych yn apelgar, fel rhywbeth sy’n gwarchod yn erbyn pob ffurf o fethiant. Mae Shaping the Wild yn darparu cyd-destun cynhwysfawr ar gyfer deall sut mae colled a methiant yn bresennol bob amser yn y penderfyniadau a wnawn; dyma hanes arwrol-drasig ein tirluniau diwylliannol nodweddiadol. Enillion o ganlyniad i waith dygn a cholledion hawdd. Cae a hawlir yn ôl wedi llanw o brysgwydd; rhywogaeth wedi ei llusgo’n ôl o ymyl y dibyn. Yma mae David Elias yn amlygu gwir ystyr enillion a cholledion o’r fath a’r newid diwylliannol y byddai’r newid i ‘dim canlyniad rhagweladwy’ yn ei awgrymu. Ond yr hyn sy’n drawiadol yw bod yr awdur yn trin pob ongl o fater gyda pharch, chwilfrydedd a dadansoddiad trwyadl a theg. Wrth wneud hyn mae’n dod o hyd i ddosbarthiad eang o rinweddau a ffaeleddau; yn ei feddwl parthed ‘dad-ddofi’ cymaint â mewn rhannau eraill o’r sbectrwm rheolaeth tir.

Mae yna onestrwydd i’r ysgrifennu hwn sy’n hawlio parch, wrth i’r awdur edrych yn fwy eang yn gyson na’i feddyliau a’i brofiadau ei hun. Mae hyn yn bosibl oherwydd bod Mr Elias wedi datblygu oes o ddealltwriaeth empathetig o gadwraeth, ffermio, y bobl sy’n byw y bywydau hynny a gwead y byd natur y maen nhw’n gweithio gydag o. Dyma lle mae cyd-ddealltwriaeth rhwng bydau yn cael ei ymgorffori, ac yn hynny ceir potensial y llyfr i gefnogi newid. Yn y byd cyhoeddus, pa mor aml mae sgyrsiau yn cael eu torri yn eu blas gan ddiffyg iaith a rennir, gyda’r ddwy ochr un ai’n anfodlon neu’n rhy barod i fynegi sut mae tynged ffermio a byd natur yn effeithio ar ei gilydd.

Mae’r canolbwynt ar ffermio a chadwraeth fel ffactorau cyfartal ond gwahanol hefyd yn amlygu gwirionedd sy’n aml yn cael ei hanwybyddu – bod cadwraeth bellach yn ffordd o fyw, gyda diwylliant, medrau a gwybodaeth wedi eu gwau’n dynn o’i gwmpas, a’i bod yn bosib ei gymharu â’r ffordd y mae amaethu wedi ei wreiddio yn y tir.

I baratoi ar gyfer y sgyrsiau ar y llwybr i adferiad byd natur, darllenwch yn llyfr hwn.

Shaping the Wild: Wisdom from a Welsh Hill Farm
Gan David Elias
Archebwch y llyfr yma yn: https://www.uwp.co.uk/book/shaping-the-wild/
Calon – Gwasg Prifysgol Cymru
Cyhoeddwyd 27 Ebrill 2023
ISBN 9781915279347
Clawr caled, 220pp, £18.99

Comments are closed.