Rydym yn recriwtio! Swyddog Ariannol

CYMDEITHAS ERYRI
Rhif cofrestru Comisiwn Elusennau 1155401
Rydym yn recriwtio! Swyddog Ariannol
1 diwrnod yr wythnos, cyflog pro rata £30,884

Cefndir
Elusen gofrestredig yw Cymdeithas Eryri (CESS) sy’n rhoi cadwraeth ac ymgyrchu ar waith i warchod tirluniau rhyfeddol Eryri a galluogi eu mwynhad cyfrifol, nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Drwy gyfrwng ein rhaglen Dwylo Diwyd a’i llu o wirfoddolwyr rydym yn darparu cymorth ymarferol i gynnal llwybrau, clirio sbwriel a rheoli rhywogaethau ymledol. Rydym yn helpu i adfer byd natur drwy gydweithio mewn partneriaeth ar gynefinoedd a rhywogaethau o’r arfordir hyd at gopaon ein mynyddoedd.

Rydym hefyd yn defnyddio ein llais annibynnol i ymateb i gynigion cynllunio sylweddol ac rydym yn cyfrannu i ymgynghoriadau cenedlaethol a lleol ynglŷn â dyfodol ein amgylchedd gwerthfawr a threftadaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.

Mae gennym dîm o 10 aelod o staff a throsiant blynyddol o oddeutu £250,000 a ddaw o gyfraniadau, cymynroddion, tanysgrifiadau aelodaeth a chontractau, ynghyd â grantiau yr ydym yn atebol amdanyn nhw i ystod o gyrff ariannu allanol.

Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn atebol am y gwaith a gyflawnir gan CESS ac yn cydweithio’n agos gyda’r tîm sy’n gyfrifol am y gweithredu o ddydd i ddydd.

Mae CESS yn defnyddio Cyfrifon Liberty ar gyfer cynhyrchu adroddiadau incwm a gwariant gan gronfeydd a gweithgareddau, sefydlu a monitro cyllidebau a chwblhau Cyfrif Terfynol diwedd y flwyddyn. Fe’i cynlluniwyd i’w ddefnyddio gan elusennau ac mae’n cynnal modiwlau hyfforddiant rheolaidd i sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio, yn ogystal â diweddariadau meddalwedd a gwelliannau rheolaidd.

Rhan amser yw swydd y Swyddog Ariannol ar 0.2 FTE sy’n gyfystyr â 7.5 awr yr wythnos, gyda hyblygrwydd sylweddol o ran gweithio’r oriau. Yn gweithio o adref yn bennaf gyda chyfarfodydd achlysurol yn y swyddfa a lleoliadau eraill yng ngogledd Cymru. Rheolwr llinell daliwr y swydd yw’r Cyfarwyddwr. Mae’r Swyddog Ariannol yn gyfrifol am baratoi adroddiadau rheolaidd ar gyfer y Cyfarwyddwr, y Pwyllgor Ariannol a Rheolaethol a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, ac am gydlynu cynhyrchu Cyfrifon Blynyddol yr elusen gan yr archwilwyr annibynnol penodedig.

Am brif gyfrifoldebau ac Nodweddion unigolyn gweler yma: Swyddog Ariannol

 diddordeb? Sut i wneud cais
Dylid anfon ceisiadau gerbron ar ffurf llythyr cynhwysol sy’n amlinellu’n glir sut ydych chi’n ateb gofynion allweddol y swydd hon. Gallwch hefyd atodi CV os mai dyna eich dymuniad, ond dalier sylw na fydd CV ar ei ben ei hun yn cael ei ystyried.
• Dyddiad cau ar gyfer cais: 21 Mehefin 2023
• Anfonwch gais ar e-bost i info@snowdonia-society.org.uk yn cynnwys ‘Swyddog Ariannol’ yn y llinell pwnc.
• Hysbysir ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer y rhestr fer erbyn 26 Mehefin
• Disgwylir y cynhelir cyfweliadau ar 3 Gorffennaf 2023

Comments are closed.