Rydym yn recriwtio – Cyfarwyddwr

Lleoliad:          Gweithio hyblyg yn y Caban LL55 3NR ac o gartref

Cyflog:            £42,800-£48,000

Cytundeb:      Llawn-amser (37.5 awr yr wythnos, i’w drafod)

Pensiwn:         Cyfraniad cyflogwr o 6%

Yn adrodd i:    Bwrdd Ymddiriedolwyr

Rheolwr llinell: Cadeirydd y Bwrdd Ymddiriedolwyr

Y rôl

Oes gennych chi wybodaeth fanwl a chariad tuag at fyd natur gyda thystiolaeth gref o weithio a phrofiad o weithio mewn cadwraeth a gwarchod tirluniau a threftadaeth?

Allwch chi arddangos sut y byddech yn defnyddio hyn i arwain Cymdeithas Eryri yn y dyfodol, a’n helpu i ni ddatblygu’r rolau arbennig sydd gennym, gwneud gwahaniaeth mewn cadwraeth ymarferol, adfocatiaeth ac ymgyrchu?

A oes gennych chi weledigaeth a gallu strategol?

Ydych chi’n gallu datblygu perthnasau gyda medrau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn gallu ysbrydoli a dylanwadu ar eraill, ac yn gallu creu partneriaethau sydd o fudd i’r naill a’r llall?

Ydych chi’n mwynhau her arweinyddiaeth a datblygiad trefn gwaith, cydweithio gyda thîm a’i rymuso, ar yr un pryd â dod â’r gorau mewn pobl i’r wyneb drwy ofalu am eu lles a’u datblygiad?

Os felly, efallai mai chi yw’r unigolyn priodol i ymuno â Chymdeithas Eryri ar adeg argyfyngus o ran crebachiad byd natur, effaith newid hinsawdd, mwy o bwysau gan ymwelwyr ac amgylchedd godi arian heriol yng nghanol argyfwng costau byw.

Am Gymdeithas Eryri

Elusen yw Cymdeithas Eryri sydd wedi ymrwymo i warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri a hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal nawr ac yn y dyfodol.

Mae’n seiliedig ar aelodau ac yn cydweithio gyda gwirfoddolwyr, cymdeithasau lleol, busnesau ac unigolion i helpu i warchod Eryri. Ers 1967 mae Cymdeithas Eryri wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod Eryri yn cael ei gwarchod yn dda, yn cael ei rheoli’n dda ac yn cael ei mwynhau gan bawb.

Os hoffech ymgeisio am y swydd hon, cewch fanylion llawn am y swydd a sut i wneud cais YMA

Dyddiad cau ceisiadau yw 23:59 30 Gorffennaf 2023.

Sylwer nad ydym yn derbyn ceisiadau nad ydyn nhw wedi eu cwblhau na cheisiadau hwyr.

Cynhelir cyfweliadau yn y Caban yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 21 Awst 2023

Comments are closed.