Recriwtio Ymddiriedolwyr

Gwybodaeth Ymgeisio Recriwtio Ymddiriedolwyr i’r Bwrdd 2023

Croeso

Ydych chi’n teimlo’n angerddol dros Eryri a’i thirlun amrywiol, diwylliant cyfoethog, iaith a threftadaeth?

Yna byddem yn falch iawn pe baech yn ystyried ymuno â ni fel ymddiriedolwr a gwneud gwahaniaeth i’n gwaith. Hoffem greu amrywiaeth o fewn ein Bwrdd a’r peth pwysicaf yw angerdd a diddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol. Felly, beth bynnag yw eich cefndir, os ydych yn teimlo y gallwch wneud gwahaniaeth wrth adfer byd natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd yna fe all dod yn ymddiriedolwr i ni ein hysbrydoli un ac oll.

Rydym yn awyddus i’n Bwrdd allu eiriol ar ran pawb, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg ac ar ran pobl iau a merched, lle nad oes cynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.

Fel elusen, rydym wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf ac mae ein tîm o staff cadwraeth wedi llwyddo i ehangu ein rhwydwaith gwirfoddoli sy’n rhoi cadwraeth ymarferol ar waith wrth adfer byd natur, cynnal llwybrau a galluogi mwy o bobl i fwynhau’r harddwch naturiol yr ydym yn ei werthfawrogi mewn modd mwy cyfrifol. Rydym hefyd yn ymgysylltu efo’r cyhoedd a chymunedau lleol, yn codi arian ac yn cydweithio gyda phartneriaid i gynyddu ein heffaith. Mae ein llais dylanwadol yn cyfrannu at gynlluniau llywodraethol a all olygu newidiadau pwysig sy’n effeithio arnom i gyd drwy gyfrwng deddfwriaeth newydd. Yn ddiweddar rydym wedi rhoi sylwadau gerbron o fewn meysydd trafnidiaeth gynaliadwy a thwristiaeth, y Mesur Amaeth, a ffermio cynaliadwy.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu ein strategaeth ar gyfer y dyfodol. Ein dymuniad yw bod yn fwy eglur am y canlyniadau arbennig a fudd yn fuddiol i genedlaethau’r dyfodol sy’n dymuno gofalu a mwynhau tirluniau mwy gwyllt a llawn byd natur. Hefyd, mae angen i ni barhau i sicrhau ariannu drwy gyfrwng grantiau, cyfraniadau a chofroddion er mwyn parhau’n hyfyw yn ariannol.

Os ydych chi’n teimlo y gallwch bod yn gymorth i ni wneud gwahaniaeth fe all y rôl yma fod yn ddiddorol a heriol, a byddai’n eich galluogi i ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch medrau. Rydym yn croesawu’r sawl sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd ac sy’n dymuno’r math hwn o brofiad.

I fod yn ymddiriedolwr, mae angen amser ac ymroddiad ynghyd â brwdfrydedd, syniadau a gallu i wrando ar eraill a’u herio. Os oes gennych ddiddordeb, edrychwch ar yr Wybodaeth ar gyfer Ymddiriedolwyr Arfaethedig, sy’n atodol ac sydd hefyd yn gadael i chi wybod sut i wneud cais.

Mwy o gwybodaeth yma: Recriwto Ymddiriedolwyr 2023

Sue Beaumont, Cadeirydd

SUT I WNEUD CAIS

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Cadeirydd, Cymdeithas Eryri, Sue Beaumont, drwy ddilyn y cyswllt canlynol:

info@snowdonia-society.org.uk  Ni fydd hyn yn ffurfio rhan o’r broses recriwtio.

I wneud cais, anfonwch CD byr a datganiad cynhwysol ynghyd ag ymatebion i’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth mae ein gweledigaeth yn ei olygu i chi a sut allwch chi ein helpu ni i’w ddatblygu yn y dyfodol?
  2. Pa brofiadau a medrau fyddwch chi’n gallu eu cynnig i’r Bwrdd?
  3. Sut fyddwch chi’n cefnogi diwylliant y Bwrdd o gydweithio a chynhwysiant?

Cewch fwy o wybodaeth amdanon ni ar ein gwefan o dan Amdanon Ni/Dogfennau’r Gymdeithas, yn cynnwys ein strategaeth gyfredol, cyfansoddiad a’n cyfrifon terfynol ar gyfer 2022/23.

Anfonwch eich cais wedi ei gwblhau, os gwelwch yn dda, i info@snowdonia-society.org.uk erbyn dydd Sul 23 Gorffennaf 2023. Rydym yn disgwyl y bydd y sawl a ddewisir ar gyfer y rhestr fer yn cael eu galw am gyfweliad ym mis Awst ac yn cael gwybod y canlyniad erbyn diwedd mis Awst.

Comments are closed.