Plant Atlas 2020: llwyddiant gwyddoniaeth dinasyddion sy’n dogfennu trychineb i fioamrywiaeth

Ar ddydd Mercher 8 Mawrth cynhaliwyd lansiad cenedlaethol Plant Atlas 2020, gwaith o bwys sy’n disgrifio dosbarthiad presennol holl blanhigion blodeuol, rhedyn a chnwpfwsoglau Gwledydd Prydain. Cynnyrch 20 mlynedd o waith maes gan fotanegwyr gwirfoddol yw Plant Atlas 2020, a gydlynwyd gan Gymdeithas Fotanegol Gwledydd Prydain https://bsbi.org/

Yn ystod yr arolwg hwn cwblhaodd y gwirfoddolwyr gyfanswm anhygoel o 178,000 o ddyddiau cofnodi a chyflwyno mwy na 26 miliwn o gofnodion. Drwy wneud hynny cofnodwyd 3,445 o wahanol rywogaethau o blanhigion, gan gynnwys 1,692 sy’n frodorol i Brydain ac, yn benodol, 1,753 o rywogaethau estron sydd wedi’u cyflwyno’n fwriadol neu’n ddamweiniol i’r gwyllt gan bobl. Mae’r canfyddiad syfrdanol hwn yn golygu bod mwy o blanhigion wedi’u cyflwyno yn y gwyllt ym Mhrydain bellach na phlanhigion brodorol, gyda llawer yn tarddu o erddi ac wedyn yn ymledu i sefydlu poblogaethau hunangynhaliol

Darllenwch crynodeb yma: BSBI Plant Atlas 2020 summary report Britain in Welsh WEB.pdf

Comments are closed.