Datganiad 25/3/20 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

Datganiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

 16:30 Dydd Mercher y 25ain o Fawrth 2020

Yn dilyn y niferoedd digynsail o ymwelwyr a welwyd y penwythnos diwethaf yn rhai o safleoedd poblogaidd Eryri, heddiw bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Chyngor Gwynedd yn cau mynyddoedd prysuraf yr ardal gyda chymorth deddfwriaeth brys Llywodraeth Cymru. Gobeithiwn y bydd y mesurau hyn  yn sicrhau na fydd y sefyllfa ddigynsail a welwyd y penwythnos diwethaf yn cael eu hailadrodd y penwythnos hwn. 

Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac ni fyddwn yn oedi i gyflwyno mesurau pellach os bydd angen. Rydym yn cymryd y camau yma nid yn unig er mwyn gwarchod y cyhoedd yn gyffredinol, ond i warchod ein cymunedau gwledig ac i leihau’r pwysau fydd lledaeniad y firws yn ei gael ar ein gwasanaethau iechyd lleol. 

 Golyga’r mesurau hyn na fydd cyfleusterau parcio na mynediad i’r safleoedd mwyaf prysur yn Eryri yn cynnwys Yr Wyddfa, Ogwen, Cader Idris, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy. Felly, rydym yn annog ymwelwyr oedd yn bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopa neu safle poblogaidd arall i ddilyn canllawiau’r llywodraeth, sef i aros adref a mynd allan i ymarfer yn eu hardal leol.

 Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Heddiw rydym yn cau’r mynediad cyhoeddus i’r ardaloedd mynyddig prysuraf gyda chydweithrediad yr heddlu a’r awdurdodau lleol. Gwnawn hyn mewn ymateb i’r pwerau brys a ganiatawyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn amddiffyn cymunedau gwledig a gwasanaethau iechyd ardal Gogledd Cymru ac er mwyn helpu i atal lledaeniad y firws.

Anogwn bobl leol sy’n byw o fewn ac yn agos i ffin y Parc Cenedlaethol i barhau i fynd allan i ymarfer ar stepen eu drws. Gofynnwn i’r bobl hynny ymweld â’n gwefan neu e-bostio am ragor o wybodaeth. I’r rhai hynny nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded mae ein neges yn glir – peidiwch ag ymweld â’r Parc Cenedlaethol nes bydd canllawiau’r Llywodraeth i osgoi teithio diangen wedi ei godi. Ni fydd cyfleusterau parcio a bydd y mynyddoedd wedi cau – parchwch ganllawiau’r Llywodraeth – arhoswch adref i fod yn ddiogel.

O ganlyniad i’r mesurau yr ydym wedi eu cymryd, gobeithiwn na welwn ni’r sefyllfaoedd digynsail a welwyd y penwythnos diwethaf yn cael eu hailadrodd. Byddwn yn monitro effeithiolrwydd y mesur hwn yn agos, ac ni fyddwn yn oedi rhag cymryd camau pellach i gau mwy o ardaloedd os na fydd y sefyllfa’n gwella.”

Bydd Wardeiniaid y Parc Cenedlaethol yn cadw golwg ar y sefyllfa, ond gofynnwn hefyd i’r cyhoedd ein helpu trwy gadw golwg ar eu hardaloedd ac adrodd ynghylch unrhyw broblemau fel y gallwn weithredu’n gyflym i’w datrys gyda’n partneriaid. Gallant gysylltu â ni trwy e-bostio parc@eryri.llyw.cymru neu trwy ein cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw faterion yn ymwneud â pharcio, gormodedd o bobl, neu faniau cysgu.

  Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch y safleoedd sydd wedi cau yn ogystal ag effeithiau ar ein gwasanaethau trwy ymweld â:

www.eryri.llyw.cymru/coronavirus

 DIWEDD 

 

Datganiad gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

15:00 dydd Llun y 23ain o Fawrth 2020 

Yn dilyn y penwythnos prysuraf ers cyn cof o ran ymwelwyr i Eryriheddiw bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cymryd camau pellach er mwyn gwarchod y cymunedau lleol a’r gwasanaethau hanfodol rhag lledaeniad y firwsMewn cydweithrediad â’r heddlu ac awdurdodau lleol bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn cau ei brif feysydd parcio ac yn ymchwilio i bwerau i gau’r mynyddoedd a’r safleoedd mwyaf poblogaidd os bydd y sefyllfa‘n parhau.  

Ni fydd cyfleusterau parcio ar gael ar gyfer mynediad i safleoedd mwyaf poblogaidd Eryri yn cynnwys Yr Wyddfa, Cadair Idris, Llyn Tegid, y ddwy Aran, y Carneddau a’r Glyderau a Chrib Nantlle. Felly rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopa poblogaidd arall i aros adref ac ymarfer yn eu hardal leol.

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr APCE: 

“Heddiw, mewn cydweithrediad gyda’r heddlu ac awdurdodau lleol byddwn yn cau ein holl brif feysydd parcio. Rydym yn gwneud hyn gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru er mwyn amddiffyn y cymunedau gwledig a’r gwasanaethau iechyd yn ardal Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda hwy i edrych ar y posibilrwydd o gau safleoedd a mynyddoedd poblogaidd os bydd niferoedd yr ymwelwyr yn ei gwneud hi’n amhosib cynnal ymbellhad cymdeithasol yn effeithiol.

Roedd y tyrfaoedd a welsom ar Yr Wyddfa ac mewn safleoedd penodol yn Eryri dros y penwythnos yn ddychrynllyd, a daeth yn amlwg nad oedd pobl yn derbyn cyngor y Llywodraeth i osgoi teithio yn ddiangen na chynnal pellter cymdeithasol diogel.  Mae’n rhaid i ni felly ymateb yn gyflym er mwyn bod y mater yn cael ei ddatrys. Ddoe fe wnaethom alw ar y Llywodraeth i dynhau mesurau ac arweiniad er mwyn sicrhau nad yw pobl yn teithio i gefn gwlad i hunan-ynysu. Heddiw, mae’n rhaid i ni weithredu. Ein blaenoriaeth yn ystod yr amseroedd anodd yma yw gwarchod ein cymunedau lleol a’r gwasanaethau brys hanfodol sydd eisoes dan bwysau”.

Mae’r Llywodraeth wedi diweddaru eu canllawiau y bore yma ar gyfer y rhai sy’n teithio o fewn y DU. Mae’r canllawiau hyn yn datgan yn glir na ddylai pobl fod yn cynllunio dod i Eryri tra bod y canllawiau yma yn weithredol.

Gellir cael gafael ar wybodaeth ynghylch pa feysydd parcio fydd yn cael eu cau ac effeithiau pellach ar ein gwasanaethau trwy fynd i:

 www.eryri.llyw.cymru/coronavirus 

 DIWEDD

 

Statement from Snowdonia National Park Authority  

 13:30 on Monday, the 23rd  of March 2020  

 Following the busiest visitor weekend in living memory in Snowdonia the National Park Authority will today take further measures to protect rural communities and vital services from the spread of the Coronavirus. In co-operation with the police and local authorities the Snowdonia National Park Authority will close all its main car parks and is also exploring options to close down the most popular mountains and sites if the situation continues.  

 There will be no parking available for access to the most popular sites in Snowdonia including Snowdon, Ogwen, Cadair Idris, Llyn Tegid (Bala Lake), the two Aran, Carneddau and Glyderau and the Nantlle Ridge.  Therefore, we urge visitors planning on coming to climb Snowdon or any other popular peaks and sites to stay at home and exercise in their local area.    

 Emyr Williams, Chief Executive of Snowdonia National Park said: 

 “Today we will be shutting down our main car parks in co-operation with the police and local authorities. We are doing this with the full support of the Welsh Government in order to protect rural communities and health services in the North Wales area. This includes working with them to look at shutting down crowded sites and mountains if visitor numbers make it impossible to maintain effective social distancing.  

 The crowds we saw on Snowdon and around key sites in Snowdonia over the weekend were alarming as it became evident people were not heeding the Government’s advice to avoid non-essential journeys and to maintain safe social distancing, therefore we must act quickly to ensure that this issue is addressed.  

 Yesterday we called on the Government to tighten measures and guidance to ensure that people are not travelling to the countryside to self-isolate. Today we are taking action. Our priority in these challenging times must be to protect our rural communities and the vital and over-stretched health and emergency services”. 

Guidelines have been updated this morning by the Government for those travelling in the UK. These guidelines are clear in that in this period you should not be planning to come to Snowdonia, whilst such guidelines are in place.

 More information on the car parks that will be closed and further impacts on our services can be found here: 

 www.eryri.llyw.cymru/coronavirus 

 ENDS 

 

SNPA calls on Government to institute clearer measures to protect rural communities

22 March 2020

Only 24 hours after the Prime Minister issued tighter measures to prevent the spread of the Coronavirus, Snowdonia National Park experienced its busiest ever visitor day yesterday. The National Park Authority in now calling on the government to institute clearer guidance and measures in order to ensure that the spread of the virus is slowed. Based on the unprecedented scenes in Snowdonia yesterday we fear that the current guidance is not explicit enough for people to protect themselves and others.

Emyr Williams, Chief Executive of the Snowdonia National Park Authority said:

“On Friday night the prime minister announced new restrictions aimed at slowing the spread of the virus. This included ordering the closure of all pubs, cafes and hotels. In the 24 hrs following this announcement there have been unprecedented scenes in Snowdonia. We have experienced the busiest visitor day in living memory. The area has been overwhelmed with visitors. More worrying still is the significant crowding on the mountain summits and trails making it impossible to maintain effective social distancing”.

We are calling on the Prime Minister and First Minister of Wales to provide stronger measures on unnecessary travel and social distancing, to ensure that we do not see a repeat of yesterday’s scenes across Snowdonia. Specific guidance is needed on what “necessary travel” actually entails. We also call on all visitor and holiday owners to heed government advice and avoid all but essential travel, and to stay at home to stay safe.

If no further steps are taken we will need to take drastic measures to protect the communities and health services in North Wales, such as shutting down car parks and trails.

Snowdonia is not the only area experiencing this problem; other visitor destinations across the world have also been overwhelmed. Yesterday, the Australian government were forced to close Bondai Beach following major over-crowding.

Local businesses reliant on the tourism sector in Snowdonia have been leading the way in making brave decisions over the past few days despite the economic impact it will have on them. Major attractions have closed their gates, small activity providers are cancelling their organised events and guided trips. Local restaurants and pubs are turning their focus to helping their local communities by supplying and delivering meals to the elderly and those in self-isolation. The communities and businesses within the National Park are pulling together to help one another, and we need our visitors to do the same.

This major influx to Snowdonia and North Wales in general has caused major concerns locally, with people worried about increased pressure on the NHS, rescue services, food supplies and visitor infrastructure, which is already under pressure due the pandemic.

In these challenging times the Snowdonia National Park Authority will focus all its effort, energy and resource in the coming days and weeks on looking after the communities and businesses in and around the National Park.  We will be pleased to welcome visitors back to this beautiful part of the country once the situation has improved.

Comments are closed.