Annwyl Aelod o’r Senedd: sicrhau blaenoriaeth i adferiad byd natur yn y Bil Amaeth.

Hygrocybe splendidissima (cap cwyr ysblennydd): a welir ar laswelltir hynafol a reolir yn sensitif yng Nghymru – rhan o dreftadaeth gyfoethog byd natur ffermdir y mae angen ei drysori.

DIWEDDARIAD 2 Mai 2023

Wnaethom gefnogi ymrwymiad cynnar Llywodraeth Cymru i  gefnogi adferiad byd natur drwy wobrwyo canlyniadau amgylcheddol ag arian cyhoeddus. Fodd bynnag, ers hynny bu rhywfaint o ôl-beddlo siomedig. Fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, mae’r Bil hwn yn colli cyfleoedd allweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng byd natur. Nawr dadl Cyfnod 3 ar 16 Mai yw’r cyfle olaf i sicrhau bod y Bil yn gwneud yr hyn y bwriadwyd yn wreiddiol ei wneud. Y flaenoriaeth glir ar y cam olaf hwn yw ychwanegu ‘adfer bioamrywiaeth’ at amcanion y Bil Amaeth.

Dywedwch wrth eich Aelodau Senedd fod angen cynnwys adfer natur fel un o amcanion clir y Bil Amaethyddiaeth. Dim ond wedyn y gallwn fod yn hyderus y bydd arian cyhoeddus sy’n ariannu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn adfer byd natur ledled Cymru.

Dewch o hyd i’ch Aelodau Senedd yma: https://senedd.wales/find-a-member-of-the-senedd/

…………………………………………………………………………………………………………………

Ambell dro mae’n rhaid i ni eiriol dros fyd natur bregus yn y mannau yr ydym yn gofalu amdanyn nhw. Dyma un o’r adegau hynny. Mae rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r craffu ar Fesur Amaeth Cymru yn peri cryn bryder i ni. Mae risg bod Llywodraeth Cymru yn israddio ei ymrwymiad i adfer bioamrywiaeth. Dyma eich cyfle i weithredu; ysgrifennwch at eich Aelodau o’r Senedd, fel eu bod yn gwybod bod adfer byd natur yn bwysig i chi.

Pan fydd yn cael ei dderbyn fel cyfraith, bydd y Mesur Amaeth yn sefydlu’r hyn a all fod, pe bai’n cael ei ganolbwyntio’n briodol, yn arf sylfaenol ar gyfer adfer byd natur Cymru – y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) a fydd yn dylanwadu ar sut y rheolir y rhan fwyaf o dir. Gwnaed argymhellion i Lywodraeth Cymru yn dilyn craffu adroddiad Cam 1 gan y pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig (EMMG) yn cynnwys Argymhelliad 8 ar Atgyfnerthu Adferiad Bioamrywiaeth.
Mae ymateb y Gweinidog i’r rhan honno o’r adroddiad yn dweud y bydd y Mesur, fel y mae wedi ei ysgrifennu, yn helpu adferiad byd natur ac yn cynnal byd natur. Fodd bynnag, mae’r Gweinidog yn gwthio’n ôl ar gynnwys y geiriau ‘adfer bioamrywiaeth’ yn y trydydd amcan ac mae hyn yn peri cryn bryder i ni:

‘Does dim angen ychwanegu ‘adfer’ yn y trydydd amcan o ystyried hyd a lled yr amcan yn ôl y disgrifiad uchod. Fe all hefyd greu tyndra rhwng y trydydd amcan a’r amcan cyntaf, cynhyrchu bwyd a nwyddau eraill yn gynaliadwy, a’m hamcan wedi ei ddatgan o gynnal ffermwyr ar eu tir, sy’n groes i fwriad y polisi’.

Dyma’r ddadl gyda’r mwyaf o argyhoeddiad eto ar gyfer cynnwys adferiad byd natur fel amcan penodol o’r Mesur. Mae ymateb y Gweinidog yn awgrymu nad yw adfer byd natur yn gydnaws â ffermio a chynhyrchu bwyd a bod rhaid i ni ddewis rhwng bwyd a byd natur. Rydym yn anghytuno’n gryf. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dangos penderfyniad wrth chwilio am atebion lle mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i gynhyrchu bwyd, mynd i’r afael â newid hinsawdd ac adfer byd natur, gyda’i gilydd ac ar yr un pryd.

Mae adfer ecosystemau yn allweddol i fframwaith bioamrywiaeth byd-eang Kunming-Montreal. Dylai’r Mesur amlygu bod gan ffermio, prif ddefnydd tir Cymru, rôl hanfodol i’w chwarae wrth wireddu’r adferiad hwn. Mae arnom angen cyfeiriad polisi gwahanol ar frys o ganlyniad i bolisïau’r gorffennol, oedd yn gosod blaenoriaeth i gynhyrchu o flaen byd natur a’r amgylchedd.

Cofiwch adael i’ch Aelod o’r Senedd wybod bod angen nodi adferiad byd natur fel amcan yn y Mesur Amaeth, ac felly yn flaenoriaeth ar gyfer yr arian cyhoeddus a fydd yn ariannu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Rhestrir eich Aelodau o’r Senedd yma: https://senedd.wales/find-a-member-of-the-senedd/

Comments are closed.