Dewch i’n helpu i ddatrys yr hafaliad hwn: Carbon + Dŵr + Natur = Mawn
Y dyddiad olaf ar gyfer gweithredu yw 18 Mawrth 2022
Trysor yn y pridd: Mae mawnogydd iach yn storio mwy o garbon nag unrhyw ddefnydd tir arall. Maen nhw’n arafu llif dŵr oddi ar y tir ac yn lleihau llifogydd i lawr yr afon. Yn Eryri mae 30,000 hectar, neu traean, o fawnogydd pwysicaf Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd adfer mawnogydd ac wedi rhoi rhaglen genedlaethol o adfer mawnogydd ar waith er mwyn adfer 600-800 hectar o fawnogydd diraddedig pob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Hoffem weld mwy, ond dyma gam positif o ran ymateb i argyfwng hinsawdd a byd natur.
Yn y cyfamser, mae bron pob canolfan arddio yn dal i werthu compost yn seiliedig ar fawn. Does dim pwrpas gwarchod ac adfer mawnogydd Cymru os ydym yn parhau i’w dinistrio mewn mannau eraill. Mae gwahardd gwerthu mawn a chynnyrch mawn yn hanfodol, ac yn gam amlwg i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ei gymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a byd natur.
Rydym yn croesawu’r ymgynghoriad gan Defra ar hyn o bryd ar ddod â gwerthu mawn i ben mewn garddwriaeth yn Lloegr a Chymru.
Rydym mewn twll, felly mae angen i ni roi’r gorau i dyllu!
Rydym yn pwyso arnoch i ymateb i’r ymgynghoriad. Isod, rydym wedi amlinellu rhai pwyntiau allweddol y mae angen eu clywed yn uchel ac yn amlwg. Mae croeso i chi eu defnyddio neu eu haddasu yn ôl eich dymuniad. Bydd yn cymryd ychydig funudau’n unig a bydd pob llais yn gwneud gwahaniaeth.
Negeseuon allweddol
- Mae’r dull gwirfoddol o ddod â’r defnydd o fawn i ben wedi ei roi ar waith ac yn fethiant llwyr
- Mae angen gwaharddiad cyfreithiol llwyr ar werthu mawn a chynnyrch sy’n cynnwys mawn mewn siopau a garddwriaeth broffesiynol yng Nghymru a Lloegr.
- Dydy mesurau eraill megis tâl ychwanegol yn y man gwerthu neu adrodd yn ôl mandadol yn ddim byd ond ymyrraeth diwerth
- Dod ag echdynnu mawn o fawnogydd y DU i ben, fel sydd wedi digwydd eisoes yng Nghymru. Dod â mewnforio mawn o wledydd eraill i ben.
Sut i ymateb: Drwy gyfrwng hwb ymgynghori Defra https://consult.defra.gov.uk/ neu ar e-bost i horticultural.peat@defra.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer ymateb: 18 Mawrth 2022
Cyswllt â’r ymgynghoriad: https://consult.defra.gov.uk/soils-and-peatlands/endingtheretailsaleofpeatinhorticulture/
Cyswllt â’r erthygl yn ein cylchgrawn gan ein Cyfarwyddwr yma: https://issuu.com/cymdeithaseryri/docs/issu_snowdonia_society_autumn_2021_magazine