A welsoch chi ni ar Countryfile yr wythnos ddiwethaf?
Dangoswyd eitem am Gymdeithas Eryri mewn rhaglen BBC Countryfile am ein Parc Cenedlaethol yn gynharach y mis yma. Yn yr eitem, soniwyd am y gweithgareddau cadwraeth lluosog sy’n digwydd, a phwysleisiwyd cyfraniad enfawr ein gwirfoddolwyr i lwybrau a chynefinoedd unigryw Eryri.
Mae’r rhaglen ar gael i’w gwylio eto ar BBC iPlayer os na wnaethoch chi ei gweld.
Cliciwch yma i wylio BBC iPlayer – Countryfile – Snowdonia.