Cry of the Curlew 

Curlew

Roedd y tro cyntaf i mi weld gylfinir yn hedfan heibio, wrth gynnal arolwg adar, yn gofiadwy. Gyda’i big hir ar dro, ei goesau hir a’i faint, roedd yn anodd ei fethu. Mae ei alwad yn adnabyddus ac yn rhoi i ni ei enw Saesneg, curlew. Mae cydweithwyr Cymdeithas Eryri a minnau, a’r gwirfoddolwyr hynny a ddaeth i’n cynorthwyo, wedi cael y fraint o gymryd rhan yng ngwaith yr RSPB yn Sir Conwy gyda’r gylfinir eleni, wrth gynnal arolygon cynefin, ysglyfaethwyr ac adar. Enw’r project yw Cri’r Gylfinir. 

Un o ddim ond deuddeg o enwau am y gylfinir yn y Gymraeg ydy ‘cylfinir’! Mae hyn yn dangos mor gyffredin oedden nhw ar un pryd. Efallai eich bod wedi  clywed am chwibanogl y mynydd neu Pegi pig hir.   

Mae’r rhan fwyaf o ylfinirod Cymru a welir ar yr arfordir yn y gaeaf yn dod o’r gogledd-orllewin, yn gynnwys gogledd Lloegr, Yr Alban, Rwsia ac Yr Ffindir. Gellir cymharu hyn gyda’r nifer fechan sy’n ymweld yn ystod y gwanwyn a’r haf i fagu yn ein hucheldiroedd (ac yna’n hedfan tua’r de orllewin i Iwerddon, Ffrainc neu Sbaen dros y gaeaf). Hyd yma, mae llawer mwy o ylfinirod yn ymweld ag arfordir Cymru i aeafu na’r nifer sy’n dod i fagu yn ein hucheldir, ac efallai nad oeddech, fel finnau, yn ymwybodol o’u prinhad. Ers talwm roeddwn yn arfer gweld gylfinirod pob gaeaf, yn rhydio mewn pyllau ac yn gwthio eu pigau hir i’r ddaear mewn caeau gwlyb yn Neigwl, Sir Benfro, yn agos at fy nghartref bryd hynny. 

Yng Nghymru, mae’r nifer o ylfinirod sy’n magu yma wedi prinhau o 69% rhwng 1995 a 2018. Os bydd y prinhad presennol yn parhau ar yr un raddfa, ni fydd poblogaeth fagu gynaliadwy o ylfinirod yng Nghymru ymhen deng mlynedd – hynny ydy, erbyn 2033. 

Does dim digon o gywion y gylfinir yn goroesi i fod yn oedolion: yn benodol, ar gyfartaledd, dim ond 0.2 cyw o nythaid o 3 neu 4 ŵy sy’n goroesi ar hyn o bryd.   I sicrhau bod gennym boblogaeth gynaliadwy sy’n magu, dylai’r cyfartaledd hwnnw, yn ddelfrydol, fod yn 1.2 cyw yn goroesi. I’w ddisgrifio mewn ffordd arall, mae angen i bob pâr gael un cyw ifanc sy’n goroesi bob yn ail flwyddyn, ond ar hyn o bryd mae goroesiad cywion llawer is na hynny ac mae ein poblogaeth o ylfinirod yn heneiddio.  

Pam nad yw cywion yn goroesi? Dydyn ni ddim yn gwybod yn bendant, ond mae’r project Cri’r Gylfinir, hanner ffordd drwy ei bedair blynedd o ariannu gan EU LIFE, yn darparu data gwerthfawr (drwy gyfrwng arolygon a monitro nythod) i ddeall y rhesymau. Fe all sawl ffactor chwarae rhan, yn cynnwys draenio tir corsiog, newid hinsawdd, y newid dros gyfnod o amser i gynhyrchu silwair yn hytrach na gwair, sy’n golygu bod gwair yn cael ei dorri’n gynt yn y flwyddyn, nifer uchel o frain tyddyn a llwynogod, a choedlannau planhigfeydd (sy’n darparu lloches i ysglyfaethwyr) a leolir wrth ymyl cynefinoedd y gylfinir. Mae’r project yn galluogi arolygu, monitro a rheolaeth briodol ac adfer cynefinoedd.   

Swyddog Cadwraeth Alf yn cymryd rhan mewn arolwg

Yn un o ddim ond pump safle yn y DU, mae ardal Ysbyty Ifan a Hiraethog, Sir Conwy (yr unig un yng Nghymru) wedi ei dewis ar gyfer gwaith gyda’r gylfinir. Mae ei rhosydd grugog, gorgorsydd, gwelltir ucheldir a borir a ffriddoedd yn golygu ei bod yn ardal bwysig i ylfinirod sy’n magu. Mae angen y canlynol ar y gylfinir: llystyfiant tal ar gyfer cuddio rhag ysglyfaethwyr a lleiniau agored a borir i’r cywion redeg o gwmpas ynddyn nhw, pantiau bas o ddŵr ar gyfer cywion gyda’u pigau byrrach a phyllau mwy dwfn i’r oedolion fforio am fwyd ynddyn nhw. Mae’r ffermwyr gwych sy’n rheoli’r cynefinoedd hyn yn eu cynnal mewn cyflwr delfrydol wrth gydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae staff y project wedi bod yn gweithio oriau hir dros y tymor nythu, yn adnabod nythod a monitro’r teuluoedd o ylfinirod. 

Mae’r gylfinir yn rhywogaeth ‘ddangosol’, hynny ydy, os oes gylfinirod i’w gweld mewn cynefin yna mae’r cynefin hwnnw’n debygol o fod mewn cyflwr iach. Felly, mae llwyddiant o ran gwrthdroi’r prinhad mewn gylfinirod hefyd yn mynd i fod o fudd i boblogaethau o rywogaethau eraill yn cynnwys y gornchwiglen a’r cwtiad aur, gan fod eu niferoedd hwy hefyd o dan fygythiad. 

Gobeithiwn adrodd ar ddarlun mwy iach yn y blynyddoedd i ddod! 

Wedi eich ysbrydoli? Pam na wnewch chi  click here to find out more [glicio yma I ddysgu mwy] a chadw llygad am staff yr RSPB mewn gwyliau a ffeiriau lleol yr haf hwn? Mi fyddan nhw yn Sioe Llanrwst ddydd Sadwrn nesaf, 24 Mehefin, a bydd Cymdeithas Eryri yno hefyd. Dewch draw am sgwrs! 

Mary Williams

Swyddog Cadwraeth

Comments are closed.