Cadwraethwyr y dyfodol

Diolch enfawr i Goleg Myddelton a disgyblion Coleg Menai sydd wedi bod yn cydweithio â ni ledled Eryri dros fisoedd y gaeaf. Mae’r grwpiau wedi cymryd rhan mewn rheolaeth cynefin ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a chlirio eithin o weddillion safleoedd cyn-hanesyddol dynodedig yn y Carneddau. Da iawn un ac oll; mae eich brwdfrydedd a’ch holl waith wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi gwireddu cryn dipyn! Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda llawer mwy o grwpiau yn ystod y flwyddyn i ddod.

Mae hi wedi bod yn bleser hefyd cyfarfod a threulio amser gyda grŵp Sgowtiaid Bethesda a Ffermwyr Ifanc Caernarfon i sgwrsio am waith cadwraeth yn Eryri – mae eich diddordeb a’ch ymrwymiad yn galonogol ac yn ysbrydoliaeth!

Os ydych yn gwybod am unrhyw grŵp ysgol neu ieuenctid a hoffai gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth yn Eryri, cofiwch gysylltu gyda dan@snowdonia-society.org.uk.

Myfyrwyr Coleg Menai ar diwrnod clirio eithin, Cwm Anafon

Comments are closed.