Au revoir Claire!

Ymunodd Claire Holmes â staff Cymdeithas Eryri yn ôl ym mis Ionawr 2017 fel ein Swyddog Digwyddiadau. Daeth Claire yn aelod allweddol o’r tîm yn fuan iawn wrth drefnu digwyddiadau ysbrydoledig. Mae Claire wedi mynd â digwyddiadau’r Gymdeithas i lefel newydd ac mae’n fuddiol ei bod wedi treulio ei dyddiau olaf o weithio i’r Gymdeithas yn cyflwyno Penwythnos MaD llwyddiannus eleni o fedrau cadwraeth ymarferol gwych.
O’r diwedd, mae Claire yn gwireddu ei huchelgais tymor hir i ddysgu celf, wedi iddi gwblhau ei Thystysgrif Ôl-radd mewn Addysg (PGCE) yn rhan amser tra’n gweithio yma: rydym yn gwybod y bydd yn ysbrydoliaeth i’w myfyrwyr.

Byddwn yn dy fethu Claire; diolch i ti am dy holl waith, dy synnwyr ysbrydoledig o ryfeddod ac am yr holl brofiadau arbennig yr wyt ti wedi eu creu dros bum mlynedd a hanner prysur!

Comments are closed.