…a hwyl fawr gennyf i

Mae ein Cyfarwyddwr John Harold hefyd yn symud ymlaen – ar ddiwedd mis Mai. Mae’n symud, yn llythrennol, i borfeydd newydd wrth iddo fynd i weithio ar gadwraeth gwelltir llawn rhywogaethau gyda Plantlife. Dyma neges John i bawb sydd wedi bod yn rhan o hanes y Gymdeithas yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.

Rydw i’n brwydro i ddod o hyd i eiriau i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r Gymdeithas dros y degawd diwethaf.

I’n haelodau: chi yw asgwrn cefn y Gymdeithas. Yn aml, rydw i wedi fy nghyffwrdd wrth sylweddoli dyfnder eich teimladau fel aelodau tuag at y lle hyfryd hwn. Daw hyn yn amlwg yn aml pan fydd rhyw ran o Eryri o dan fygythiad ac wrth i’r aelodau roi gwarchodaeth ar waith. Ar adegau eraill, pan fydd yn rhy hwyr i ddweud diolch, bydd rhodd hael i gefnogi ein gwaith yn fy atgoffa cymaint yw gofal ein cefnogwyr. Mae rhai ohonoch wedi mynd y tu hwnt i garedigrwydd i fod yn gymorth i mi gyda gwaith y Gymdeithas – ar adegau ni fyddwn wedi gallu ymdopi heboch chi. Diolch yn fawr!

I’n gwirfoddolwyr – rydych yn rhoi ystyr i gymaint o’n gwaith. Mae’r cliw yn yr enw; Cymdeithas Eryri – mae ein gwaith yn cynnwys yr ardal a’r bobl sy’n rhoi eu hamser i’w gwarchod. Mae pobl o bob lliw a llun mor bositif wrth ddod ynghyd, glaw neu hindda, i warchod rhywbeth mor werthfawr ar ein rhan ni i gyd. Diolch i chi!

I’r gymuned hyfryd o staff, rydych yn hollol anhygoel – yn gwneud yn iawn am fy methiannau drwy wireddu cymaint. Rydych yn defnyddio’ch egni, medrau a’ch ymrwymiad yn gyson i sicrhau bod pethau da’n digwydd, faint bynnag o adnoddau sydd ar gael ei chi. Diolch enfawr!

Ac i bob un o staff a gwirfoddolwyr cymaint o gyrff, grwpiau, projectau a busnesau lleol sy’n bartneriaid; mae gormod ohonoch i’ch cydnabod yn unigol ond ledled fy nghyfnod rydych wedi cyfoethogi bywyd ein cymdeithas ac Eryri ei hun. Diolch!

Yng nghylchgrawn Gwanwyn 2023 ysgrifennais am dri ymrwymiad a wnes i ar gychwyn fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr; aros yn ddigon hir i wneud gwahaniaeth; hyrwyddo’r iaith Gymraeg; datblygu’r rhaglen wirfoddolwyr fel cymorth ymarferol arwyddocaol dros Eryri.

Mae’r gwaith yn gwneud gwahaniaeth – i Eryri ac i bawb sy’n cymryd rhan. Dylem fod yn falch o’r hyn yr ydym wedi ei gyflawni gyda’n gilydd. Dylai’r Gymdeithas fod yn falch o’i buddsoddiad sy’n cynyddu mewn pobl ifanc. I ateb anghenion y man arbennig hwn bydd angen mwy o fuddsoddiad fel hyn arnom – mewn pobl a medrau – i wireddu gwell dyfodol i Eryri, dros fyd natur, ac i bob un ohonom ei fwynhau. Gobeithio y byddwch yn parhau i gefnogi’r Gymdeithas ac, yn wir, yn cynyddu eich cefnogaeth er mwyn sicrhau’r adnoddau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r gwaith hanfodol hwn. Byddai hynny’n sicrhau fy mod yn hyderus bod y deng mlynedd ddiwethaf wedi talu ar eu canfed.’

Comments are closed.