Wrth i 2022 ddirwyn i ben gallwn fwrw trem yn ôl ar flwyddyn brysur arall i wirfoddolwyr a staff Cymdeithas Eryri.
Dyma gipolwg ar yr hyn a gyflawnwyd gennym:
– 5,729 o goed wedi eu plannu
– 514m o wrychoedd wedi eu plannu
– 45m o lwybrau wedi eu creu
– 21.34km o lwybrau wedi eu cynnal
– 1044 kg o sbwriel wedi ei gasglu
– 469 bag o sbwriel wedi eu casglu
– Wedi gweithio gyda grwpiau gwirfoddol o 10 gwahanol gorff
Mae eich cefnogaeth a’ch gwaith dygn yn ein galluogi ni i barhau i weithio i warchod a gwella byd natur a chynefinoedd Eryri.
Diolch unwaith eto i’n holl wirfoddolwyr ac aelodau!