Ffensio

Gwarchodfa natur arfordirol yw Morfa Bychan ger Porthmadog a’i pherchennog yw Ymddiriedolaeth Fywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Mae yma gynefinoedd amrywiol gwahanol o dwyni tywod wrth y traeth hyd at ddechrau’r goedlan wrth i chi fynd tua’r tir, felly mae’n gartref i amrywiaeth o rywogaethau. O ganlyniad i ddatblygiadau ar y glannau, ychydig o dwyni tywod cyflawn fel hyn sydd yn y wlad, felly mae’n nodedig o arbennig.

Mae rhai rhannau o’r warchodfa’n cael eu pori er mwyn sicrhau na fydd prysgwydd yn tyfu ar y rhannau agored, ac i gynnal yr amrywiaeth o gynefinoedd. Felly, mae angen ffensys a gyda ffensys, mae angen gwaith cynnal a chadw!

Dewch i helpu’r Ymddiriedolaeth Fywyd Gwyllt i drwsio’r ffens lle mae angen hynny. Efallai y bydd hyn yn golygu gosod pyst newydd neu ddefnyddio eich medrau gyda morthwyl i osod netin ar y ffens. Dyma gyfle i ddysgu medrau newydd mewn amgylchedd hyfryd.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
 mary@snowdonia-society.org.uk
 01286 685498