Gwirfoddoli: Plannu coed
11:00 – 15:00, Cwm Mynach
Torrwch eich llewys, rhowch eich welingtons ymlaen a ewch i afael ar rhaw. Mae’r tymor plannu coed wedi dychwelyd!
Ymunwch â ni a Coed Cadw ar eu safle yng Nghwm Mynach. Mae’r ardal 400 hectar hon yn llawn bywyd, yn cynnwys digonedd o adar, rhedyn prin a hydd brith.
Helpwch ni i gefnogi’r rhan hon o’r goedwig law Geltaidd drwy blannu coed a ddewiswyd yn ofalus mewn lle cywir ar yr amser cywir.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.