Gwirfoddoli: Gwanwyn Glân Cymru: Llwybr Llanberis i gopa’r Wyddfa
08:30 – 17:00
Mae Caru Eryri nôl yn 2024!
Ymunwch â ni wrth i ni gydweithio a Chadwch Gymru’n Daclus am flwyddyn arall i gymryd rhan yn eu hymgyrch amgylcheddol gweithredu torfol mwyaf Spring Clean.
Fel rhan o’n hymdrechion eleni byddwn yn cynnal 4 diwrnod gwirfoddol dros Ŵyl Banc y Pasg.
Am y diwrnod hwn, byddwn yn gwneud ein ffordd ar hyd llwybr Llanberis ac yn canolbwyntio ein hymdrechion i fyny ar y copa ei hun cyn disgyn yn ôl i lawr!
Gyda gŵyl banc prysur y Pasg ar y gweill, mae’n debygol na fydd prinder aelodau o’r cyhoedd i ymgysylltu â nhw wrth gymryd y golygfeydd (gobeithio).
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.