Gwirfoddoli: Gwanwyn Glân Cymru – Aber Dyfi

Gwirfoddoli: Gwanwyn Glân Cymru – Aber Dyfi

10:00 – 15:00, Aber Dyfi

Ymunwch â ni wrth i ni gydweithio â Cadwch Gymru’n Daclus am flwyddyn arall i gymryd rhan yn eu hymgyrch amgylcheddol gweithredu torfol mwyaf, y Gwanwyn Glân.

Fel rhan o’n hymdrechion eleni byddwn yn cynnal 4 diwrnod gwirfoddol dros Ŵyl Banc y Pasg.

Am y diwrnod hwn bydd ein hymdrechion yn canolbwyntio ar ffin ddeheuol Eryri ar lannau Aber Dyfi gyda golygfeydd gwych o Eryri i’r Gogledd a mynyddoedd Cambria i’r De.

Mae rhwydwaith o afonydd a nentydd yn ffurfio dalgylch yr aber hyfryd hwn sydd yn un o dim ond 11 safle yn y DU sydd wedi’u cofrestru fel Gwarchodfa Biosffer ryngwladol.

Yn anffodus, nid dŵr yw’r unig beth sy’n cael ei gludo i lawr yr afon. Yn ystod cyfnodau o lanw uchel mae’r sbwriel a gludir gan y dŵr yn cael ei ddyddodi ar lannau’r aber.

Helpwch ni i warchod y niferoedd mawr o adar dŵr sy’n bwydo yma trwy ein helpu i gadw’r ardal yn rhydd o sbwriel unwaith eto.

Lefel ffitrwydd – cymhedrol

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.