Gwirfoddoli: Gwanwyn Glân Cymru: Abergwyngregyn
09:30 – 13:00
Mae Caru Eryri nôl yn 2024!
Ymunwch â ni wrth i ni gydweithio a Chadwch Gymru’n Daclus am flwyddyn arall i gymryd rhan yn eu hymgyrch amgylcheddol gweithredu torfol mwyaf Spring Clean.
Fel rhan o’n hymdrechion eleni byddwn yn cynnal 4 diwrnod gwirfoddol dros Ŵyl Banc y Pasg.
Mae dyffryn Abergwyngregyn yn adnabyddus am ei olygfeydd hardd o’r mynyddoedd ac wrth gwrs, Rhaedr Fawr.
Ymunwch â thîm Caru Eryri wrth i ni reoli lefelau sbwriel a darparu gwybodaeth ac arweiniad i ymwelwyr ar y llwybr prysur hwn.
Mae’r diwrnod yma yn hawdd cyrraedd ar bws.
Lefel ffitrwydd – cymhedrol
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.