Gwirfoddoli: Pitsio – Adeiladu Llwybr Troed
10:00 – 16:00, Llan Ffestiniog
Bydd Cymdeithas Eryri yn gwneud gwelliannau i ran o lwybr llechi Eryri ger Llan Ffestiniog, a byddem yn gwerthfawrogi’ch help yn fawr!
Byddwn yn gwella adran o’r llwybr drwy osod cerrig mawr a’u cloi at ei gilydd – proses o’r enw ‘pitsio’.
Mae’r tir ar y safle hwn yn wlyb iawn, felly bydd pitsio’r adran hon o’r llwybr yn helpu i leihau erydiad a sicrhau bod cerdded y llwybr yn brofiad i’w fwynhau.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.