Caru Eryri: Cynnal a chadw llwybrau
Llwybr Watkin, yr Wyddfa 09:00 – 15:00
Dyddiau cynnal a chadw llwybrau bob mis drwy gydol yr haf, gan gydweithio gyda thîm llwybrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled amrywiaeth o ardaloedd sydd o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cewch ddysgu gan yr arbenigwyr sy’n creu ac yn cynnal llwybrau ar dir yr Ymddiriedolaeth drwy gydol y flwyddyn. Fel arfer mae’r gwaith yn cynnwys clirio draeniau’r llwybrau er mwyn rhwystro erydiad gan ddŵr glaw ac ôl-traed. Does dim angen profiad: dewch i ddysgu medr newydd!
Lefel ffitrwydd – heriol
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.