Taith Codi Sbwriel rhwng Betws y Coed a Tŷ Hyll

Snowdon Litter Pick

A hoffech chi ein helpu i gadw Eryri yn daclus?

Yna beth am ddod gyda ni am dro trwy’r coetir ffrwythlon ar hyd Afon Llugwy hyfryd. Mi fydd hi’n daith 2.5 milltir o Fetws -y -Coed ac yn gorffen i fyny gyda the prynhawn yn Nhŷ Hyll ! Mae’r llwybr yn hawdd i’w ddilyn , ond gall y llwybrau fod yn fwdlyd a llithrig felly rhaid sicrhau bod gennych esgidiau da ! Yn ogystal â chasglu sbwriel – uchafbwynt y daith hon yw’r cyfle i weld y Rhaeadr Ewynnol drawiadol o bwynt ffafriol a llai adnabyddus

I cael gwybod mwy, cysylltwch â Bethan unai drwy anfon ebôst i bethan@snowdonia-society.org.uk neu rhowch alwad i’r swyddfa ar 01286 685498.