Tacluso Tŷ Hyll – Casgliad Sbwriel

A oes gennych ddiddordeb yn ein helpu i ‘Gadw Cymru’n Daclus’?

Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio â thîm cadw Cymru’n daclus ac yn cynllunio Casgliad Sbwriel ar hyd y llwybrau o amgylch Tŷ Hyll. Bydd aelod o dîm Cadw Cymru’n Daclus yn ymuno â ni i egluro rhagor am eu prosiect, a bydd yn gyfle perffaith i glywed rhagor am Gymdeithas Eryri ac ein gwaith yn Nhŷ Hyll hefyd!

Os nad ydych wedi gwirfoddoli i Gymdeithas Eryri o’r blaen ac fe hoffech chi ddod draw, cysylltwch â Bethan unai drwy anfon ebost i bethan@snowdonia-society.org.uk ne rhowch alwad i’r swyddfa ar 01286 685498! Darperir yr holl offer, dewch draw yn gwisgo dillad ac esgidiau addas!