Casgliad Sbwriel ‘Her y 3 Chopa Go Iawn’
Archebu lle yn hanfodol, Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael
Rydym yn falch o gefnogi Her Casgliad Sbwriel y 3 Chopa unwaith eto eleni. Dewch i ymuno â ni a llawer o wirfoddolwyr eraill wrth i ni gydweithio i dacluso’r Wyddfa yn dda cyn dyfodiad misoedd y gaeaf. Nod y diwrnod yw tacluso holl lwybrau troed yr Wyddfa ar yr un pryd, gan sicrhau y gofalir am y mynydd cyfan. Bydd cyfle i holl wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri deithio ar drên i’r copa yn rhad ac am ddim. Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, felly archebwch eich lle nawr.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498