Siarcol a llwybrau
Archebu lle yn hanfodol
Dysgwch sgil newydd. Rydym yn cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gynnig cyfle i ddysgu’r sgil o wneud golosg. Yn ystod y 3 diwrnod, byddwn yn dysgu sut cynhyrchir golosg o’r brigyn i’r bag. Tra byddwn yn disgwyl i’r broses gwblhau, byddwn yn cael cyfle i helpu i gynnal y llwybrau troed gerllaw yn y llecyn hyfryd hwn ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae croeso i wirfoddolwyr ymuno â ni am 1, 2 neu 3 diwrnod.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498