Plannu Gwrych

Plannu Gwrych, Caernarfon

Archebu lle yn hanfodol

Coedlan ar gwr Caernarfon yw Coed Cadnant a blannwyd oddeutu ugain mlynedd yn ôl ar gyfer y gymuned, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o’r coed yn eithaf ifanc. Dewch i helpu Coed Cadw i ail-blannu coed newydd ar hen boncan gwrych ar ochr y nant. Os nad ydych wedi plannu coed o’r blaen, byddwch yn arbenigwr erbyn diwedd y sesiwn. Mae’n llesol i chi – bydd yn eich helpu i gadw’n heini – ac yn dda i fywyd gwyllt. Mae coed yn darparu cysgod rhag ysglyfaethwyr i anifeiliaid bychan, mannau i adar a llygod nythu yn ogystal â bwyd.

D.S. Digwyddiad byr yw hwn, nid diwrnod llawn.

Cysylltwch ag Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
01286 685498