Cyfle gwych i gael dysgu mwy am y Pathew, dan arweiniad arbeinigwraig Becky-Clews Roberts
Mae gan y pathew cyffredin gôt euraidd, llygaid mawr duon a chynffon blewog sy’n cyfrif am 80{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} o hyd ei gorff! Gan eu bod yn ddringwyr gwych ac yn greaduriaid nosol, anaml iawn y gwelir y mamaliaid bychan hyn! Mae eu niferoedd yn gostwng ac mae eu statws cadwraeth yn amrywio o statws prin a hyglwyf i statws difodiant, ac mae’n gyfle gwych i ddysgu rhagor am y creaduriaid hardd hyn. Dan arweiniad Becky Clews-Roberts, bydd y diwrnod yn cynnwys cyflwyniad i’r Pathew Cyffredin yn cwmpasu agweddau helaeth o’u hanes naturiol, a sesiwn ymarferol ar ôl cinio. Bydd y sesiwn ymarferol yn yr awyr agored gerllaw, ble bydd Becky yn dangos sut i archwilio blychau pathewod, felly dewch ag esgidiau a dillad addas. Bydd nifer cyfyngedig o lefydd ar y diwrnod hwn, felly bydd archebu yn hanfodol.
Mae’r cwrs hwn os ddim i wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri. Os nad ydych yn wirfoddolwr ond â diddordeb mewn cymryd rhan yn y cwrs, os gwelwch yn dda cysylltwch â Bethan naill ai drwy e-bost ar bethan@snowdonia-society.org.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 01286 685 398!
Beth i ddod gyda chi:
- Dillad cynnes gyfer sesiwn y prynhawn y tu allan
- Pecyn cinio a lluniaeth ( bydd cegin yno ar gyfer te a coffi ! )
- Mae llyfr nodiadau a beiro