Parc Padarn: Clirio rhywogaethau ymledol

Parc Padarn: Clirio rhywogaethau ymledol

10:00 – 15:00, Parc Padarn, Y Glyn

Byw yn Nyffryn Peris? Beth am ymuno ag un o’n diwrnodau gwirfoddoli Parc Padarn bob pythefnos?

Nod y prosiect cymunedol hwn yw cysylltu pobl leol â rheolaeth barhaus Parc Padarn a chefnogi rhywfaint o’r gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud yn yr ardal hon.
Mae’r Glyn ar lan dde-orllewinol Llyn Padarn yn cael ei lyncu’n araf gan y rhywogaeth ymledol Buddleia davidii (Butterfly Bush).
Mae’r planhigyn gardd boblogaidd hwn yn achosi problemau gan ei fod yn ymledu’n gyflym ac yn dominyddu ardaloedd naturiol aflonyddgar ar draws ystod eang o amodau.

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.