Her Mynydd Dyffryn Conwy Fabian4

Pob elw at Gymdeithas Eryri!

“Ras mynydd caled go iawn,” ac yn ddigwyddiad codi arian gwych â’r elw at Gymdeithas Eryri. Mae na adrannau caiacio, rhedeg mynydd a beicio mynydd. Codwyd £1,667, llynedd, i ein helpu ni i gadw Eryri’n wyllt ac yn hardd i bawb eu mwynhau.

A ydych chi’n barod am Her Mynydd Dyffryn Conwy Fabian4 2016?

Cofrestrwch nawr i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan fel unigolyn neu gallwch rannu’r ymdrech fel rhan o dîm. Os nad oes gennych dîm, bydd y trefnwyr yn helpu i chi ddod o hyd i bobl eraill!

A chofiwch fod yr elw i gyd yn mynd at Gymdeithas Eryri i gefnogi ein gwaith cadwraeth ar draws y Parc Cenedlaethol.

Cofrestrwch ar-lein ar wefan Her Mynydd Dyffryn Conwy Fabian4.

Yn eisiau: stiwardiaid gwirfoddol a chynorthwywyr eraill

Os dymunech fwynhau a bod yn rhan o’r diwrnod heb cystadlu, mae yna lawer o dasgau sy’n gofyn am wirfoddolwyr.

Cysylltwch â netticollister@hotmail.com os hoffech roi help llaw.

“Diolch enfawr i bob un o’ch stiwardiaid oedd yn sefyll allan ar y cwrs drwy’r dydd, gyda gwên a digon o anogaeth.” Jean Ashley

 

Geirda gan gystadleuwyr blaenorol …

“Diolch yn fawr am eich digwyddiad gwych! Yr anoddaf ar ein Cylchdaith Quadrathlon. Wedi ei drefnu’n wych gan eich tîm.” Jean Ashley

“Ras mynydd caled go iawn,” yn ôl Steve King

“Her mynydd unigryw,” meddai Paul Glossop

“Diwrnod gwych a llwybr syfrdanol.” Lou Beetlestone

“Diolch am ddigwyddiad oedd wedi ei drefnu’n ardderchog.” Gina Guscott

(Geirda wedi eu cyfieithu o’r Saesneg)