Taith gerdded natur gyda Mike Raine *llawn*
09:00 – 15:00, Ogwen
Taith gerdded ‘Natur Eryri’ AM DDIM gyda’r awdur, hyfforddwr mynydda, ac arbenigwr ar Eryri, Mike Raine.
Yn rhan o brosiect Caru Eryri, mae’r diwrnod yn gyfle gwych i ddysgu mwy am fywyd gwyllt a heriau unigryw y Parc Cenedlaethol.
Ar y diwrnod bydd y tir ar adegau yn anwastad ac yn serth yn cynnwys grisiau mawr i gyrraedd rhai mannau gwych i fywyd gwyllt. Mae angen lefel eithaf da o ffitrwydd, felly, ar gyfer y diwrnod hwn.
Addas i trafnidiaeth cyhoeddus
Ystyriwch cyrraedd trwy defnyddio y bws T10 – Fydd pris tocyn yn cael ei ad-dalu.
Rhaid bwcio ymlaen llaw:
Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.
Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.