O’r Wyddfa i’r Môr: sgwrs gan Owen Davies
7-8:30yp, Blue Sky Bangor
Ymunwch ag Owen Davies, swyddog project Cymdeithas Eryri, am sgwrs am sut mae’r Gymdeithas a’i gwirfoddolwyr yn cydweithio i gynnal harddwch Eryri.
Gyda’n gilydd awn am dro drwy ei hamrywiol gynefinoedd – o’r môr i gopaon y mynydd – gyda lluniau gan Owen ar hyd y daith. Dewch draw i’r sgwrs hon am ddim yn lleoliad hyfryd Caffi Blue Sky Bangor i weld sut allwch chi wneud eich rhan i warchod ein Parc Cenedlaethol.
I gofrestru am y digwyddiad rhad ac am ddim yma, gyrrwch e-bost i’n Swyddog Ymgysylltu, Claire: claire@snowdonia-society.org.uk