Walio / Ffensio

Walio / Ffensio

Archebu lle yn hanfodol, esgidiau pen dur yn hanfodol (casgliad bychan i fenthyg)

Ar ol datblygiadau yn yr prosiect o’n gwaith diweddar mi fydd yr diwrnod yma rwan yn ffocysu ar walio fel rhan o’r prosiect Glastir cyffredinol.

Yma yng Nghymdeithas Eryri, rydym ni wrth ein bodd yn helpu’r sawl y mae natur yn elfen greiddiol o’u gwaith. Mae Canolfan Cadwraeth Pensychnant yn rhannu nifer o’n gwerthoedd allweddol, a chaiff ei rhedeg mewn modd sy’n ystyriol o gadwraeth bob amser. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r warden ym Mhensychnant wedi dod yn gyfrifol am y fferm, ac yn sgil hynny, nifer o ddyletswyddau newydd sbon. Nid yw rhedeg fferm a chanolfan gadwraeth eich hun yn waith hawdd, felly byddwn yn mynd i Bensychnant i gynnig help llaw er budd achos da. Ymunwch â ni i gyfranogi yng ngwaith y diwrnod wrth i ni helpu i gynnal y ffensys ym Mhensychnant. Pa un ai a oes gennych chi brofiad helaeth o godi ffensys neu os ydych chi’n ddechreuwr, mae croeso i bawb. 

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498