Diwrnod o waith yn Tŷ’n y Coed

Dewch draw am ddiwrnod o waith yn Tŷ’n y Coed…

Mae Cymdeithas Eryri a’r Woodland Trust yn ymuno â’i gilydd ar gyfer diwrnod gwaith yn Ty’n y Coed – coedtir derw gwych a gweundir grug ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri . Mae’r tasgau ar gyfer y diwrnod yn cynnwys plannu coed, clirio llennyrch ar gyfer cennau a rheoli Rhododendron. Bydd cynrychiolydd y Woodland Trust wrth law i drafod y cynllun rheoli safle, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol a bydd cludiant am ddim ar gael o Fangor a Chaernarfon.

I archebu lle ar y cludiant neu i ddangos diddordeb yn y diwrnod hyn, cysylltwch gyda Bethan unai drwy gyrru ebôst i bethan@snowdonia-scoiety.org.uk neu rhowch alwad i’r swyddfa ar 01286 685498