Difa jac-y-neidiwr gyda grwp Balsam Tregarth

Difa jac-y-neidiwr gyda grwp Balsam Tregarth

Archebu lle yn hanfodol,

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi bod yn cydweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol megis Lladdwyr Jac-y-neidiwr Bethesda i helpu i sefydlu grwpiau difa jac-y-neidiwr a rheoli’r planhigyn ar lefel leol. Ar 18 Mehefin byddwn yn ymuno â grŵp Tregarth am ddiwrnod ar lan yr afon Ogwen. “Dewch i Ddyffryn Ogwen i helpu gyda’r frwydr yn erbyn y planhigyn ymledol, jac-y-neidiwr. Byddwn yn ei godi mewn lleoliad hyfryd ar lannau’r afon lle mae’r planhigyn hwn wedi ymledu a mygu planhigion brodorol. Byddwn yn ymuno â Chymdeithas Eryri – gorau po fwyaf o wirfoddolwyr ddaw draw!” Lladdwyr Jac-y-neidiwr Bethesda. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a’r grŵp yma, yna dewch draw i’r sesiwn flasu i gyfarfod yr aelodau sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498