Cynnal a chadw llwybrau

Cynnal a chadw llwybrau

Archebu lle yn hanfodol, Hyfforddiant Achrededig Cynnal Llwybrau Troed Mynydd a Thir Isel

Dewch i’n helpu i gynnal rhai o lwybrau mwyaf poblogaidd y wlad. Mae angen gwaith cynnal a chadw parhaus ar lwybrau’r Wyddfa gan fod 500,000 o bobl yn eu cerdded bob blwyddyn. Os ydych chi’n hoffi cerdded mynyddoedd ac yn defnyddio’r llwybrau yma eich hunan, yna dyma’r diwrnod o wirfoddoli i chi. Dylech baratoi ar gyfer cerdded am y rhan fwyaf o’r diwrnod. Cysylltwch â ni cyn gynted a phosib er mwyn archebu lle.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498
498