Cwrs adnabod coed conwydd

Dewch i ddysgu sut i adnabod coed conwydd trwy gyfranogi yn y cwrs undydd hwn yng nghwmni ecolegydd. Byddwn yn edrych ar 7 teulu o goed conwydd ac yn dysgu am eu nodweddion. Erbyn diwedd y diwrnod, byddwch yn gwybod yn glir beth yw’r gwahaniaeth rhwng ffynidwydd Douglas a chypreswydd Lawson!  Addas i ddechreuwyr llwyr.

Mae yna £10 o daliad ar gyfer gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri a fydd yn cael ei rhoi nol ar y diwrnod.

**Cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o Fangor a Chaernarfon**

Archebu lle yn hanfodol


 tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

  • 29 Mai, 24
    Gwirfoddoli: Garddio yn Nhŷ Hyll

    Betws y Coed

    Ymunwch â ni yn Nhŷ Hyll hyfryd gyda’i gardd sy’n toddi’n naturiol i’r goedlan o’i chwmpas. Gallai’r tasgau gynnwys chwynnu, swyddi cynnal a chadw neu glirio llwybrau.