Adeiladu giât toiled compost

Adeiladu giât toiled compost

10:00 – 15:00, Fferm Llennyrch, Maentwrog

Dewch i ymuno â ni ar y fferm ucheldir hardd hon gyda chefndir godidog o fynyddoedd y Rhinogydd a golygfeydd i’r gogledd tuag at y Moelwynion, Crib Nantlle a’r Wyddfa!
Mae hwn yn gyfle i ddod yn ymarferol gydag amrywiaeth o offer a gweithio ochr yn ochr ag unigolion medrus wrth i ni edrych i adeiladu a gosod giât ar gyfer y toiled compost ar y safle.

Cofrestrwch rŵan!

Rhaid bwcio ymlaen llaw:

Archebwch le ar ein meddalwedd My Impact. Y tro cyntaf y byddwch chi’n defnyddio ein system newydd, My Impact, byddwch chi’n creu cyfrif. Ar ôl i chi gael eich cofrestru a’ch cymeradwyo gan weinyddwr, byddwch chi yn gallu cofrestru eich hunan i ddiwrnodau gwirfoddoli, heb orfod aros am ymateb gan weinyddwr. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwneud y system gofrestru yn haws i chi fel gwirfoddolwyr.

Os oes angen cefnogaeth ar unrhyw un i ddefnyddio My Impact, cyslltwch â Jen.