Clirio eithin, ger Llyn Ogwen
Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig
Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig
Hoffech chi gadw’n gynnes wrth gymryd rhan mewn gwaith ymarferol, a dysgu rhywfaint o hanes difyr yr un pryd?
Nod y diwrnod hwn yw clirio eithin o’r hen ffordd dyrpeg is law’r ffordd bresennol drwy Nant Ffrancon. Mae hon yn gofeb gofrestredig a’n nod yw gwella’r olygfa ohoni a rhwystro difrod pellach gan yr eithin. (Fe all gwreiddiau eithin beri niwed i hen gloddiau ac adeiladwaith tebyg). Byddwn yn darparu menig trwchus i’ch gwarchod rhag y pigau!
I gyrraedd y safle bydd angen rhywfaint o sgramblo i lawr iddo. Rydym am osgoi rhoi help llaw i bobl er mwyn cynnal pellter cymdeithasol, felly bydd angen i chi fod yn hyderus eich bod yn ddigon ystwyth neu gallwch ddod efo partner o’ch cartref a all gynnig help llaw pe bai angen.
Cynhelir amryw o grwpiau gwaith i glirio eithin o safleoedd hynafol sydd o ddiddordeb archeolegol ar y Carneddau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf fel rhan o Broject Tirlun y Carneddau.
Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.
Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091