*WEDI EI OHIRIO* Clirio Eithin

Clirio eithin, Bethesda

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Archebu’n hanfodol; lleoedd cyfyngedig

Ledled Eryri, gwelir gweddillion aneddiadau hynafol iawn, yn cynnwys rhai o’r Oes Haearn, ar ffurf cytiau crynion, muriau a chromlechi. Amcan rhan o broject Partneriaeth Tirlun y Carneddau yw dathlu a gwarchod y rhan bwysig hon o’n treftadaeth leol. Mae archeolegwyr yn cytuno bod rhywfaint o’r llystyfiant sy’n tyfu dros y safleoedd hyn yn gallu eu niweidio o dan y ddaear yn ogystal â’u cuddio.

Hoffem i’r gwirfoddolwyr helpu i glirio eithin o ddau safle o anheddiad hynafol ar lethrau isaf Moel Faban. Byddwn yn defnyddio llif fwa a lopwyr (a menig trwchus) i docio’r eithin ac yn llusgo’r canghennau a dorrir at dân diogel ar y safle. Byddwn yn defnyddio strwythur a gynlluniwyd yn benodol i beidio peri difrod o gwbl i’r tir. Ar y Carneddau a’r Glyderau, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â wardeniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, perchennog y tir.

Mae digon o waith yma am ddau ddiwrnod, felly gallwch ddewis un ai’r nawfed neu’r degfed o fis Chwefror. Gallwch ddisgwyl clywed am ddyddiau tebyg iawn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf fel rhan o broject ehangach Partneriaeth Tirlun y Carneddau.

Mae gennym brotocol clir ac asesiadau risg coronafeirws i’n galluogi i roi gwaith awyr agored ymarferol ar waith mor ddiogel â phosib. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhain cofiwch gysylltu. I sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn bosib bob amser, rydym wedi cyfyngu ar y nifer o wirfoddolwyr ar y diwrnod hwn. Cofiwch archebu’n fuan rhag ofn i chi gael eich siomi.

Cysylltwch a Mary i gofrestru:
mary@snowdonia-society.org.uk
07990 703091