Cledro Rhododendron

Cledro Rhododendron

Archebu lle yn hanfodol

Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn Nant Gwynant ers tro er mwyn clirio Rhododendron Ponticum o’r ardal. Mae Rhododendron Ponticum yn un o’r tair prif rywogaeth ymwthiol yng Nghymru ac mae’n hawdd gweld y difrod a wnaed ganddo i’n cefn gwlad cynhenid. Un o’n safleoedd mwyaf yw’r un yn Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant. Gallwch chi eisoes weld y gwahaniaeth rydym ni wedi’i wneud i’r tiroedd, ond nid yw’r frwydr wedi’i hennill eto. Mae digonedd o blanhigion Rhododendron Ponticum yn dal yno, ac mae angen eu clirio. Dewch â’ch llifiau bwa a’ch teclynnau tocio!

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498