Casgliad Sbwriel Tŷ Hyll

A oes gennych ddiddordeb yn ein helpu i ‘Gadw Cymru’n Daclus’?

Mae Cymdeithas Eryri yn cydweithio â thîm cadw Cymru’n daclus ac yn cynllunio Casgliad Sbwriel ar hyd y llwybrau o amgylch Tŷ Hyll. Bydd aelod o dîm Cadw Cymru’n Daclus yn ymuno â ni i egluro rhagor am eu prosiect, a bydd yn gyfle perffaith i glywed rhagor am Gymdeithas Eryri hefyd!

Os nad ydych wedi gwirfoddoli i Gymdeithas Eryri o’r blaen ac fe hoffech chi ddod draw, cysylltwch â Bethan un a’i trwy ebost ar bethan@snowdonia-society.org.uk ne’ rhowch alwad i’r swyddfa ar 01286 685 398

Darperir yr holl offer, dewch draw yn gwisgo dillad ac esgidiau addas! Dewch a diod cynnes gyda chi hefyd!